ddau gyhuddiad, yn gyntaf, ei bod yn gwrthod cydnabod yr Eglwys Filwriaethus ar y ddaear yn uwch awdurdod na'r Llais yn ei henaid hi ei hun; ac yn ail, am ei bod fel milwr yn mynnu gwisgo dillad gwryw. Ac am y camweddau enbyd hyn y llosgodd y Saeson hi, ac nid, wrth gwrs, am iddi hi eu gorchfygu hwy a'u hela a'u gyrru'n heidiau esgeirnoeth o bared i bost ac o bant i bentan. Bellach, y mae Eglwys Rufain hithau wedi ei gosod ymhlith y saint.
Ni honnir cywirdeb manwl a dysgedig yn y gwaith hwn; ceisiwyd trosi'r stori mor llythrennol ag y gellid heb amharu ystwythder y broddegau Cymraeg. Ni chyfieithwyd geiriau a broddegau Lladin syml a geir yma ac acw yn y llyfr; camgymeriad a fuasai gwneuthur hynny, am fod y Lladin mor naturiol a hanfodol yn y Gymraeg ag ydyw yn y Ffrangeg. Rhoddwyd ar y diwedd ychydig o nodiadau syml er hwylustod y darllenydd, a cheir yn y rhai hynny gymaint o eglurhad ag sydd yn eisiau ar y Lladin. Ni cheisiwyd newid dim ar y rhan fwyaf o'r enwau gwreiddiol, am fod enwau, yn anad unpeth, yn cadw yn y cyfieithiad lawer o flas a sawyr y gwreiddiol. Gwnaed un neu ddau o eithriadau, fodd bynnag, lle yr oedd wrth law ffurfiau a arferir mewn llenyddiaeth Gymraeg hŷn, fel Bwrgwyn am Bourgogne.
Os caiff y darllenydd bleser wrth ddarllen y stori, ac yn enwedig os cyfyd ei darllen ynddo awydd am wybod mwy am ryddiaith ddigymar Ffrainc, fe fydd cyhoeddi'r cyfieithiad wedi ei gyfiawnhau.
Dymunaf ddiolch i fy nghyfaill dawnus, Mr. David Thomas, awdur "Y Cynganeddion Cymreig," a chyfrolau eraill, am ddarllen y proflenni ac am fwy nag un awgrym gwerthfawr.
COLEG Y GOGLEDD, Awst, 1924.