am ganrifoedd. Gwyddys i sicrwydd mai un o filwyr Lionel de Vendôme, o dir Bwrgwyn, a ddaliodd y llances wrol mewn ysgarmes y tu allan i fur y ddinas, ac i Lionel ei gwerthu i John de Luxembourg; ac yn y diwedd i'r Saeson ei phrynu a thalu deng mil o ffrancod am dani er mwyn cael dial eu llid arni am feiddio eu rhwystro hwy i dreisio ei gwlad. Wedi ei chael i'w dwylo, llosgasant hi'n fyw yn Rouen ar y degfed dydd ar hugain o Fai, 1431, cyn ei bod yn llawn ugain oed. Un o weithredoedd nerthol arfau Lloegr ydoedd hon, hafal i gamp Edward I yn amharchu corff marw Llywelyn ap Gruffydd, neu orchest anfarwol yr Arglwydd Kitchener ar weddillion y Mahdi yn ein hoes ni. Gwlatgarwch oedd pechod anfaddeuol pob un o'r tri. Gweithredoedd fel y rhai hyn sy'n esbonio ysbryd yr hen fardd yn canu i'w fwyell ryfel:
Torred ei syched ar sais,
Wtresed ar waed trisais.
Bid a fo am euogrwydd Guillaume de Flavi, y mae'r darlun a gawn yn y stori hon o fywyd cyfnod Jeanne D'arc yn gywir a byw iawn. Crefydd Rhufain oedd crefydd gorllewin Ewrob; a thebig yn ei brif nodweddion i fywyd Ffrainc oedd bywyd Cymru y pryd hwnnw. Ugain mlynedd cyn merthyrdod Jeanne D'arc yr oedd rhaib a gormes milwyr Lloegr yn drwm yng Nghymru, a chyflwr y wlad yn bur debig i'r portread o Ffrainc yn stori'r bugail geifr. O ran amser gallasai Owen Glyn Dŵr fod yn daid, neu yn wir yn dad, i Jeanne D'arc.
Fel y dengys Mr. G. Bernard Shaw yn rhagymadrodd "Saint Joan," ei ddrama fawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dyma'r pryd y ganwyd syniad cenedlaetholdeb yn ystyr ddiweddar y gair; a gellir edrych ar Jeanne D'arc fel un o ragflaenoriaid Protestaniaeth. Ysgymunwyd hi gan Eglwys Rufain ar derfyn wythnosau o braw yn Rouen yn 1431 ar