Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A gwaeth fyth yr anffodion oherwydd yr ymraniadau. Glynai pob pentref wrth blaid wahanol, ac felly, yn lle swcro'i gilydd, ni pheidiai cymdogion ag ymladd â'i gilydd a niweidio'r naill y llall. Pleidiai un yr Armaeniaciaid[1] a brenin Ffrainc, Siarl VII, a'r llall y Saeson a'u cynghreiriaid y Bwrgwyniaid. Yn anffodus, y rhai olaf hyn oedd gryfaf a lluosocaf bron ym mhobman. Nid yn unig yr oedd Lloegr yn feistres ar y rhan fwyaf o Ffrainc, eithr gosodasai hefyd dywysog Seisnig, sef y duc Bedford, yn ben y llywodraeth, a throesai pobl Paris i'w bleidio.

Bellach deffroesai dychweliad y gwanwyn obeithion ym mronnau pobl y torasai'r gaeaf hir eu calonnau. Wrth weled y dolydd yn glasu a'r coed yn deilio, ymwrolent. Mwynhâi'r mwyaf anffodus y cysur cyntaf hwn a ddug llawen heulwen Mai. Wrth wylio ail ddyfodiad y pelydrau cynnes, y gwyrddlesni a'r blodau, prin y medrent gredu nad ailenid achos Ffrainc yr un fath ag wyneb ei thir.

"Ni bydd Rhagluniaeth yn galetach wrth ddynion nag wrth y meysydd!" ebr yr hen bobl.

Ac felly ymroddid i obeithio, heb gymhelliad i hynny, namyn bod Duw wedi rhoi arwyddion gweledig o'i rymuster.

Pentref ar lethr y dyffryn y buom yn siarad am dano oedd Domremy, a theimlasai ei breswylwyr, fel pawb arall, gyfaredd gwyrddlesni cyntaf y flwyddyn. Wedi cymryd calon yn nyfodiad y dyddiau braf, mynasant ddathlu gŵyl y gwanwyn trwy ymdeithio yn osgordd at bren y tylwyth teg.

Hen bren ffawydd oedd hwn, yn tyfu ar y ffordd o Domremy i Neufchâteau, ac wrth ei droed ffrydiai ffynnon gref. Perchid ef yn y wlad honno fel pren lledrith y deuai'r tylwyth teg bob nos i ffurfio'u cylch o dano yng ngoleu'r sêr.

  1. nodyn 2