Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bob blwyddyn rhodiai arglwydd y cantref, a llanciau, llancesi, a phlant Domremy yn ei ddilyn, at foncyff y ffawydden fawr i'w haddurno â choronau blodau a rhubanau.

Yn awr, y diwrnod hwn, yr oedd tyrfa luosog newydd orffen y seremonïau arferol ac yn paratoi i fynd yn ôl i'r pentref.

Ar y blaen gwelid nifer o foneddigion yn gwisgo sidan ac yn marchogaeth ar feirch, ac yn eu plith rai merched bonheddig yn dwyn wrth eu gwregys swp o allweddau i ddangos eu teitl, sef meistresi cestyll, a rhai merched ieuainc â thaleithiau[1] o leiniau gwydr lliw yn gymysg â phaderau mwsg yn eu dwylo. O'u hôl hwy deuai'r gweithwyr yn gwisgo brethyn melyn gyda gwregys a phwrs o groen gafr; yna'r llancesi a'r plant yn canu cerddi'r gwanwyn i ddathlu dyfod y dyddiau teg. Yma ac acw o'u hôl hwy cerddai nifer o weiniaid a ddeuthai i geisio adennill eu nerth yn gynt trwy rodio deirgwaith o amgylch yr hen ffawydden, a rhai cleifion a gludasid i'r ffynnon er mwyn i'w dyfroedd wella eu clefyd. Ac yn olaf, yn y rheng ddiweddaf, ymlwybrai teulu o ŵr a gwraig eisys mewn oed, â thri mab a dwy ferch yn eu dilyn.

Difrif ac onest oedd wynebau'r tad a'r fam, a symlrwydd agored ar wynebau'r bechgyn; cerddai'r ferch ieuengaf yn ei blaen dan ganu fel aderyn; ond am ei chwaer hŷn, a ddeuai'n olaf, ni ellid edrych ar honno heb synnu at dynerwch, nerth a phurdeb ei holl berson. Cerddai hi'n arafach ac adroddai'n isel ei llais weddi a ymddangosai'n llenwi ei holl fryd, nes i dwrf sydyn gyrraedd clust y dyrfa.

Troai pob llygad tua'r ffordd, ar honno cyfodai cwmwl o lwch.

"Dyma bobol Marcey yn mynd i ymosod arnom," llefai llawer llais.

  1. nodyn 3