Dychryn mawr ar y gwragedd a'r llancesi a phob un yn cychwyn ffoi tua'r pentref.
Ochr y Bwrgwyniaid a gymerai Marcey, a chawsid aml i ysgarmes rhwng eu gwŷr ieuainc a gwŷr ieuainc Domremy. Ond y waith hon byr fu parhad y dychryn; fel y dynesai'r tawch gellid canfod nad oedd yno namyn rhyw bump neu chwech o fechgyn yn ymlid im arall â cherrig ac yn llefain:
"Lleddwch o! Lleddwch yr Armaeniac!"
Nid oedd pawb o wŷr Domremy wedi dychryn, a phan waeddodd y rheiny yn eu tro, "Lleddwch y Bwrgwyniaid," trodd yr ymosodwyr yn eu holau ar redeg tua Marcey.
A'r un a erlidid, safodd yntau ynghanol y bobl oedd newydd ei waredu mor rhagluniaethol, yn chwŷs a llwch a gwaed drosto. Bachgen ydoedd, tua phymtheg oed, cryf, bywiog, ond tlotach ei wisgiad na'r bugail geifr tlotaf yn y dyffryn.
"Y nefoedd fawr! Pam 'roedd y llymrigwn uffern yna yn d'erlid di?" holai un o'r dynion a ddaliasai eu tir pan oedd y lleill wedi dychrynu.
"Ceisio 'roeddynt wneud i mi waeddi 'Byw fo'r duc Philippe,'[1] y brenin Seisnig!" atebai'r llanc.
"A fynnit tithau mo hynny?"
"Mi atebais: 'Byw fo'r brenin Siarl VII, ein hannwyl dywysog a'n cyfreithlon bennaeth.' "
Sŵn cymeradwyaeth i hyn a glywid ar bob llaw.
"Dyna eiriau dewr," ebr y gwladwr, "a diolch i Dduw am i ni fedru dy waredu di rhag y giwed yna, a chwilydd i bobol Domremy yw bod y cŵn Bwrgwyn ym Marcey yn medru cnoi pob Ffrancwr pur sy'n dod y ffordd yma; rhaid i ni roi terfyn ar y peth ryw ddiwrnod trwy roi tân dan 'i cianael nhwy."
- ↑ nodyn 2