Cymeradwyai rhai lleisiau'r geiriau hyn, ond eraill callach a gynghorai amynedd. Ail gychwynnodd pawb tua Domremy; a chan fod y llanc yn brysur yn ceisio atal y gwaed a lifai o archoll ysgafn a gawsai ar ei dalcen, gadawyd ef yn fuan ar ei ben ei hun ar ôl.
O leiaf credai ef hynny, oblegid ni welsai mo'r ferch ifanc a adawsai i weddill ei theulu fyned i'w taith, ac a nesasai ato â'i hwyneb yn llawn o dosturi caredig.
"Y mae'r hogiau drwg wedi'ch brifo chwi," ebr hi wrth edrych ar yr archoll a olchai ef yn y ffynnon. "O, y mae'n resyn gweld gwaed pobol dda yn rhedeg fel hyn ym mhob cyfeiriad; nid oes yma ond diferynnau, mewn lleoedd eraill rhed yn ffrydiau ac afonydd."
"Ie," atebai'r llencyn, "y Bwrgwyniaid sy'n fwyaf ffodus ym mhobman; dywedid y dydd o'r blaen yn Commercy eu bod wedi curo'r Ffrancwyr eto yn ymyl Verdun. A phan own i 'n gwarchod y geifr yn Pierrefitte fe ddwedid y byddai popeth yn fuan dan eu traed."
"Fyn y Meistr Mawr mo hynny," meddai'r llances yn fywiog, "na, fe geidw Ef ein gwir frenhinoedd i ni er mwyn i ninnau barhau'n Ffrancwyr cywir. O, y mae gen i ffydd yn y Meistr, ac yn ei fendigaid gwmni, Michel Sant, Catherine Sant, a Marguerite Sant."
Gyda'r geiriau hyn ymgroesodd yn ddefosiynol, penliniodd ac offrymodd weddi ddwys mewn llais isel; wedi hynny ail ddechreuodd holi'r llanc am dano'i hun.
Atebodd yntau mai ei enw oedd Remy Pastouret, mai bugail geifr tlawd oedd ei dad, a'i fod newydd farw; ei fod yntau ar ei ffordd i ymweled â châr iddo ym mynachlog y Carmeliaid,[1] yn Vassy.
Yn dâl am ei gyfrinach ef dywedodd y llances hithau y gelwid hi yn Romée[2] ar ôl ei mam, ac mai Jeanne oedd ei henw