am helyntion Ffrainc. Adroddodd Remy y newyddion a gawsai ar y ffordd, a pharai clywed am bob anffawd i'r eneth ochneidio a chroesi ei dwylo.
"O, pe medrai'r llancesi ado'r droell a'r diadelloedd," ebr hi, "feallai yr edrychai'r Meistr Mawr ar eu duwiolfrydedd ac y rhoddai iddynt y fuddugoliaeth a wrthyd i rai cryfach."
Ond ysgwyd ei ben a wnâi ei thad oedrannus wrth y geiriau hyn, ac ateb:
"Ffôl yw meddwl pethau felna, Romée; meddyliwch fwy am Benoist de Toul, ac yntau'n disgwyl eich cael yn wraig onest a gweithgar; nid oes a allom ni wrth amgylchiadau'r byd; gwaith ein tywysogion uchelwaed, gyda chymorth Duw, yw eu trefnu hwy."
Trannoeth cododd Remy ar lasiad y wawr; cafodd Jeanne eisys gyda'i gwaith. Wedi diolch iddi am a wnaethai erddo, holodd hi am y ffordd i Vassy. Yr oedd y llances ar gychwyn i arwain y diadelloedd i'r comin, felly arweiniodd ef ei hunan hyd y groesffordd gyfagos, ac wedi dangos iddo'r cyfeiriad y dylai fyned:
"Ewch rhagoch o hyd nes cyrraedd y Marne," ebr hi, "a phan ddowch at groes neu eglwys nac anghofiwch deyrnas Ffrainc yn eich gweddïau."
A chyda'r geiriau hyn rhoddodd iddo'r bara oedd ganddi'n ginio iddi ei hun, a hefyd dair ceiniog, sef cymaint oll ag a gynilasai; ac am y mynnai ef ddiolch iddi, neidiodd yn ysgafn ar y ceffyl a dywysai, a gyrrodd ef ar garlam tua'r coed, a'r gweddill o'r ddiadell yn ei dilyn.
Gan nad beth oedd trueni pobl Lorraine o achos gorthrech y frenhiniaeth o'r blaen a helyntion gwleidyddol yr amser presennol, gallent eu cyfrif eu hunain yn ffodus wrth gymharu eu byd â chyflwr y taleithiau oddiamgylch. Gallent