Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwy amaethu eu tir ganol dydd goleu, lladd a dyrnu eu hyd a phorthi eu praidd ar y bryniau; yr oedd y wlad wedi ei thlodi, ond nid wedi ei llwyr anrheithio. Gwesgid ar bopeth gan ysbeiliadau garsiynau'r gwahanol drefi a chan heidiau o Fohemiaid ac anturiaethwyr[1] arfog yn anrheithio; rhuthrai'r rhain allan o'r llwyni gyda'r nos fel bleiddiaid i geisio ysglyfaeth. Ac eto, dihangai'r pendefigion yn eu cestyll caerog rhag y colledion hyn. Wedi ymgyfoethogi yn llawnder y ganrif o'r blaen ni ofalent hwy am ddim ond mwynhau eu golud. Ni bu moethusrwydd erioed mor afradlon ac ynfyd. Gwisgai'r merched am eu pennau dyrau aruthr eu maint yn llawn o berlau a lasiau; ar flaenau eu hesgidiau crogai cnapiau o aur; ac yr oedd eu gwisgoedd o felfed, o sidan neu o bali, ac yn disgleirio gan feini gwerthfawr.

Hyd yn hyn ni feddai'r teithiwr ieuanc un syniad am y golud hwn, ond digwyddodd anturiaeth heb ei disgwyl i agor ei lygaid ar y peth.

Yr oedd newydd basio trwy bentref tlodaidd lle y gwelsai'r trigolion yn brysur yn ceisio dal llyffaint mewn llyn i'w cinio, pryd y cafodd ei hun o flaen castell. Cylchynid ei furiau â ffos yn llawn o ddŵr rhedegog, ac ar y dŵr nofiai haid o elyrch claerwyn eu plu. Wrth wylio'u symudiadau gosgeddig, clybu Remy yn sydyn anferth dwrf yn codi o'r tu ôl iddo. Trodd a gwelodd ferch ifanc a'i cheffyl wedi rhusio ac yn rhedeg tua'r ffosydd. Safai llawer o foneddigion a llawer o weision wrth y bont, ac yn eu cyfyngder yn codi eu breichiau a'u lleisiau. Ychydig eiliadau'n hwy a byddai'r march dychrynedig wedi ei fwrw ei hun i'r dŵr. Yn nhwymniad y foment, ac heb ystyried y perigl, neidiodd Remy i gyfarfod ag ef, cydiodd yn yr afwynau, a chymerodd ei lusgo ganddo hyd at lan y gamlas, ac yno tripiodd y ceffyl. Trwy hynny bwriwyd merch y castell o'i chyfrwy tros ben yr

  1. nodyn 6