Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yno gosodasid bwrdd mwy na thrigain troedfedd o hyd ac arlwy ryfeddol arno. Ar ei ddau ben safai adeiladau coed, mynydd Parnassus oedd un, gydag Apollo a'r Awenau, a'r llall yn uffern, a'r ellyllon i'w gweled ynddi yn rhostio'r colledigion. Yn y canol gwelid peth fel pastai aruthrol yn llawn o gerddorion, ac fel y deuai'r gwesteion i mewn dechreuai'r rheiny ganu symffoni swynol wedi ei chyfansoddi ar alaw enwog Y Gŵr Arfog.

Aeth pawb i'w le. Ar gyfair pob gwestai yr oedd yno blat, dysglen arian, pleth o flodau'r gwanwyn, ac un o'r ffyrch bychain oedd wedi dod yn ddiweddar yn ffasiwn yn y tai bonheddig. Bara had carwai yn unig a rennid, a gwin gyda saets neu rosmari.

Gosododd pob gwestai ei napcyn ar ei ysgwydd, a bwytaodd y ddysglaid gyntaf yn sŵn yr offerynnau. Wedi gorffen hynny, agorodd y diawliaid eu huffern a thynasant ohoni gyflawnder o adar rhost a phasteiod, a rhannwyd y rheiny â'r ager yn codi oddi arnynt. Wedyn, pan ddaeth tro'r ffrwythau, cododd Apollo a'r Awenau, a bwrw o'u deutu ddyfroedd pêr a ddisgynnai fel glaw peraroglau ar bob llaw; ac yn rhith y march adeiniog, Pegasus, canodd Normaniad un o gerddi yfed ei wlad, cerdd a briodolid i Basselin[1] ei hun:

Y clincian a garaf yw clincian potelau,
Casgenni gwin porffor a llawnion farelau;
Y rhain yw fy megnyl i ymladd, heb fethu,
A syched yw'r castell y mynnwn ei lethu.

Gwell noddfa yw'r gwydryn i ddyn guddio'i drwyn,
A llawer mwy diogel na helm milwr mwyn;
Ac ni cheir na baniar nag arwydd mwy priod
Na'r Iorwg a'r Ywen a ddengys le'r ddiod.


  1. nodyn 7