Mil gwell yfed gwin wrth y tân gyda'r nos, |
Cymeradwyai'r gwesteion hyn mewn afiaith a hwyl.
"Myn Bartholomew Sant! Dyna beth 'rwyf i 'n i alw'n gân," ebr offeiriad mawr codog, yr oedd ei blat bob amser yn llawn a'i wydryn yn wag, "pe bai pawb o'r un feddwl a Phegasus, ni cheid gweled Ffrainc wedi ei gadael i'r gwŷr arfog."
"Wel, yn siwr ddigon," atebai'r arglwydd de Forville, "pa ddiben yw ymladd cymaint â'r Bwrgwyniaid a'r Saeson, a hwythau'n gryfach?"
"Ac yn gadael i ni gael y degwm," ychwanegai'r offeiriad.
"Y bobol sydd heb eiddo sy'n pleidio'r rhyfel," ebr rhyw reithior goludog.
"Fel pe gwnai wahaniaeth mawr iddynt hwy fod yn Ffrancod neu rywbeth arall!"
"Fel pe bai'n bosibl iddynt berthyn i neb byth ond i genedl fawr y bwbachod."
"I'r diawl â'r ynfydion."
"Dywedodd Duw 'Tangnefedd i ddynion o ewyllys da'!"
"Sef i'r sawl sy'n brecwasta, yn ciniawa ac yn swperu."
"Heb anghofio'r Benedicite."
"Na'r perlysiau."
Yn wir, yr oeddynt newydd roi'r perlysiau ar y bwrdd, er mawr foddhad i'r boneddigesau a oedd heb fwyta nemor ddim hyd yn hyn ond tipyn o'r pasteiod; wedyn dygodd y gweision lestri llawn o beraroglau poeth fel y gallai pawb