Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r gwesteion ddal ei wallt, ei ddwylo a'i ddillad yn yr ager pêr; a chododd pawb i fynd i neuadd y ddawns.

Bwytaodd Remy a'r gweision weddill y wledd; a phan oedd yn ymadael, anfonodd Perinette iddo bwrs go lawn, a dymunodd arno ei fwynhau ei hun er ei mwyn hi.

Yr oedd yr anrheg yn fwy o werth fil o weithiau nag un yr eneth dlawd o Domremy, a dylasai'r cyngor fod yn fwy dymunol i'r llanc. Eto, trysori'r tair ceiniog a roddasai Jeanne iddo a wnâi efe a chadw ei chyngor yn ei gof. Hynny oedd am ei fod yntau hefyd wedi ei fagu ymhlith y gwerinos hyn na feddent ddim namyn mamwlad y dymunent ei chadw; yntau er yn fore wedi arfer caru ei bobl yn well nag ef ei hun, a gashâi â'i holl reddfau iau'r tramorwr, ac a fynnai gadw, â phris ei fywyd o bai raid, bethau hanfodol y genedl, sef y brenin, y faniar, a saint gwarcheidiol Ffrainc.