y bys bach rhag y clefyd ysbeidiol . . . . a'r trwyn rhag anhwylderau'r croen. Ar Jérôme ei hun y mae'r bai ei fod o wedi marw, ei fai o ei hun ac nid dim arall, ac mi fydd yn gyfrifol am hynny o flaen Duw."
Codasai ei lais, ond canfu ar unwaith drallod Remy, ac ymataliodd yn sydyn.
"O, o'r goreu," meddai'n dyner ac isel, " 'ran hynny, waeth heb siarad fel hyn bellach. . . . . Mab yr ymadawedig ydych chwi, y mae'n siwr?"
Amneidiodd y llanc mai felly yr oedd hi.
"A phwy a ddywedodd wrthych chwi am ddod i chwilio am danaf fi?"
"Fy nhad ei hunan," atebodd Remy, "wrth gychwyn at Dduw crefodd gan y gŵr eglwysig y gwnaethai ei gyffes iddo ysgrifennu ar femrwn, ac archodd i mi ddwyn hwnnw i chwi wedi iddo fo fynd."
"Ac 'rwyt ti wedi dyfod ag o i mi?"
Tynnodd Remy o'i ysgrepan rôl wedi ei chlymu'n ofalus a'i selio â chŵyr du, ac estynnodd hi i'r mynach. Torrodd yntau'r llinynnau, agorodd y rhôl, a darllenodd yn uchel fel hyn:
"Myfi, Jérôme Pastouret, magwr geifr yn Pierrefitte, yn fy nheimlo fy hun yn ymyl ymddangos gerbron Duw, a gredaf y dylwn ddatguddio dirgelwch, am y dichon i holl ddyfodol y plentyn a fegais dan yr enw Remy, ddibynnu arno."
Cododd y llanc ei ben wedi synnu.
"Tystiaf, gan hynny," darllenai'r mynach ymlaen, "o flaen Duw ac o flaen ei greaduriaid, i'r bachgen gael ei roddi i mi gan bennaeth sipsiwn a elwid y brenin Horsu, ac mai nid fy mab i ydyw."