Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwaeddodd Remy nes torri ar stori'r brawd Cyrille.

"Beth ydych chwi'n 'i ddweyd?" gofynnai'n grynedig.

"Ar f'enaid i! Dyna'n union beth sydd yma," ebr y mynach, gan ddangos y memrwn.

Cydiodd y llanc ynddo â'i ddwy law, edrychodd arno, ac ail ddarllenodd y geiriau, "nid fy mab i ydyw."

Ciliodd yn ôl a phlethodd ei ddwylo.

"A yw hyn yn bosibl?" murmurai, "a minnau'n credu mai y fo oedd fy nhad . . . . A phwy yw fy nheulu i, felly?"

"Gwrando," ebr Cyrille.

Yna aeth yntau ymlaen:

"Lladratasai'r brenin Horsu y plentyn ym Mharis er mwyn ei ysbeilio o'r gemau drudion a wisgai; ond ni allai roddi gwybod i mi pwy oedd ei rieni."

Symudodd Remy yn sydyn.

"Y cwbl a allwn i ei gael allan amdano," darllenai'r gŵr eglwysig, "oedd fod y lladrad wedi digwydd yng nghymdogaeth Notre Dame ar ddydd y Pentecost.

"Cyd ag y bum byw cuddiais y peth, am yr ofnwn i Remy beidio a'm caru wedi deall nad y fi oedd ei dad; heddyw rhaid i mi gyffesu'r cyfan i ysgafnhau fy nghydwybod.

"Ac wedi gweled fy mod yn rhy dlawd i ado dim i'r un a gerais fel fy mhlentyn fy hun, cyfeiriaf ef gyda'r dystiolaeth hon at Cyrille, fy nghefnder dysgedig, fel y byddo iddo ef ei gynorthwyo a'i gynghori."

Bu ennyd o ddistawrwydd wedi'r darllen. Rhag ei waethaf cawsai'r gŵr eglwysig ei gyffwrdd a chymerai arno besychu i guddio'i deimlad, a Remy, yntau, yn ei gyffro yn syllu ar y memrwn heb fedru torri gair. Ymgymysgai yn ei brofiad beth syndod, peth poen a pheth hiraeth. Yr oedd gweled nad oedd y bugail geifr a'i magasai yn dad iddo yn