peri iddo deimlo fel ped fai yn ei golli am yr eildro; yna daeth i'w gof yn sydyn yr ofn y soniasai'r marw amdano, llifai 'i ddagrau'n rhydd, a llefai, fel pe bai Jérôme yn gallu ei glywed:
"Na, 'nhad Jérôme, 'faswn i ddim yn peidio a'ch caru chwi, am na pharodd Duw i mi gael fy ngeni'n fab i chwi; y gŵr a'm magodd i 'n blentyn bach, ac a chwiliodd am noddwr i mi wrth fy ngadael ar ôl, 'fedrai hwnnw lai na bod yn dad i mi."
Gwerthfawrogai'r mynach deimladau fel hyn, ond ymdrechodd, er hynny, dawelu cynnwrf meddwl y bachgen. Dywedodd ei fod yn derbyn rhodd gymyn ei gefnder ac y byddai iddo yn lle rhieni ac athro.
Wedi hynny aed â Remy o flaen y prior, a bu wiw gan hwnnw ei gadw yn y fynachlog ar yr amod ei fod yn cymryd mantell newyddian.
Dywedodd y brawd Cyrille ar y cychwyn y ceisiai chwilio a dod o hyd i deulu'r llanc a gymerasai dan ei adain; ond deallodd yn fuan fod hynny'n amhosibl: cwmnïau arfog yn dal y ffyrdd i gyd, a phob perthynas rhwng dinas a dinas wedi ei dorri; os medrai cenhadon y brenin, trwy fawr drafferth, gludo negeseuau o un dalaith i'r llall, eto fe gymerai iddynt fis neu well i fyned o Chinon, lle y cynhelid y llys, i Champagne neu Lorraine. Felly, rhaid fu gohirio'r ymchwil am deulu Remy hyd amser mwy cyfaddas.
Yn y cyfamser, y tad Cyrille yn ymroi ati i addysgu ei ddisgybl newydd.
Fel y crybwyllwyd eisys, casglasai mynach Vassy i'w benglog holl ddysg ei gyfnod, ond bod ei feddwl yn debig i lyfrgell heb iddi fynegai, lle nid oes trefn ar ddim. Yno ceid y gwybodau meddygol yn gymysg blith drafflith ag athrawiaethau sêr-ddewiniaeth. Dechreuodd addysgu Remy