Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel yr heuir y weirglodd, sef trwy gymysgu'r holl hadau. Darllen ac ysgrifennu oedd y cwbl a ddysgasai'r llanc; dododd yntau yn ei ddwylo gyda'i gilydd gryn ugain o wahanol draethodau: yr Athrawiaethau, Blodau Llenyddiaeth, Detholion, a Chywir Gelfyddyd Uchel Areithyddiaeth. Ar yr un pryd dysgodd iddo gynheddfau eneidegol a meddygol gwahanol sylweddau; dysgodd iddo fod yr amethyst, yn ôl rhai hen awduron, yn effeithio i ddifrifoli dynion a'r rhuddem i beri iddynt lawenhau; fod y saffir yn cadw dyn rhag colli ei dda tymhorol, a'r agat rhag brathiad seirff. Arferodd ef hefyd i ddistyllio sudd dail a wasanaetha i wella'r rhan fwyaf o'r anhwylderau. Eglurodd iddo yn yr un dull fod rhyw ŵr doeth wedi darganfod bod hylifau bywyd o'r un natur â'r ether yr ymsymud y sêr ynddo, ac mewn canlyniad y gallai'r uwch-fferyllwyr gasglu yn eu llestri gyflenwad o'r hylifau hyn i'w rhoddi i gleifion i'w hanadlu. Dangosodd iddo'n olaf ddylanwad y lleuad ar y corff dynol, a pherigl yr afiechydon a ddigwyddo ddechreu pan fo'r lloer yn myned dan arwydd y Gefeilliaid.

Cofiai Remy ran helaeth o'r gwersi hyn, oblegid meddai ddeall parod a sylwgar; ond yr oedd yn amlwg mai i gyfeiriad arall yr oedd ei chwaeth. Dihangai bob dydd o laboratori'r brawd Cyrille er mwyn cael cwmni yr arglwydd d'Hapcourt, gŵr na wyddai fawr am na llên na gwyddor, ond gŵr, fel yr arferai ymfalchïo, na faliai fotwm am un gelfyddyd, ond pennaf gelfyddyd y byd, sef celfyddyd rhyfel.

Derbyniasid yr arglwydd d'Hapcourt i urdd mynach lleyg ymhlith y mynachod, yn dlawd o foddion ac yn greithiau drosto wedi deugain mlynedd dan arfau. Mynachod Lleyg y gelwid hen filwyr digartref a dderbynnid i rai mynachlogydd, ac a gedwid heb ofyn oddiar eu llaw fwy na bod yn bresennol yng ngwasanaeth crefyddol y frawdoliaeth a dilyn