y gorymdeithiau gyda'r cleddyf ar y glun. Hen ffustiwr enwog oedd mynach lleyg Vassy yn ei ddydd, a hyfrydwch iddo oedd datblygu greddfau milwrol Remy. Cyfrwyodd iddo ei farch oedrannus, arfogodd ef â phastwn a dorasid yn y llwyn cyfagos, a dysgodd iddo arfer hwnnw un ai fel gwayw, neu fel cleddau, neu fel bwyell ryfel. Wedyn gwnaeth ŵr traed ohono a dysgodd iddo sut i ymladd o'r pellter, yna yn ymyl, ac yna law-law. Mwyn i'r mynachod oedd gweled yr ymarferiadau hyn, a ddygai ar gof i lawer ohonynt flynyddoedd maboed; eithr ffromi a wnai'r tad Cyrille am golli cymaint o amser y gallesid ei roddi i astudio'r gwyddorau godidog.
"O'r goreu," ebr ef bob tro y daliai Remy yn cael gwersi gan y mynach lleyg; " 'roeddwn i wedi meddwl gwneud doethur ohono, ond fe'i gwna f'arglwydd d'Hapcourt o 'n filwr."
"Mae hyn yn lles i'w iechyd, fy mharchedig, ac yn help i'r treuliad," meddai'r hen foneddwr dan wenu.
Cododd y brawd Cyrille ei ysgwyddau ac atebodd yn sarrug:
"A fedrwch chwi ddweyd, tybed, beth yw'r treuliad, f'arglwydd? Y mae yna bedwar math: treuliad yr ystumog, treuliad yr iau, treuliad y gwythiennau, a threuliad yr aelodau, a pheth niweidiol i'r tri cyntaf yw ymarferiad. Ond 'rydach chwi'n byw heb wybod sut; y mae eich corff yn eich gwasanaethu heb i chwi wybod pa fodd, ignarus periculum adit.[1] Ewch ymlaen, f'arglwydd, ewch ymlaen, y mae gwyddoniaeth yn foneddiges o dras digon uchel i fod yn falch; ni fyn hi mo'r sawl a'i hesgeulusa."
Fodd bynnag, er gwaethaf grwgnach fel hyn, mynd yn hoffach beunydd o Remy yr oedd y mynach. Ac eithrio'i ymwneud â'r mynach lleyg, ni châi ynddo ddim bai. Meddai
- ↑ nodyn10