Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbryd uniawn, a dychymyg tanbaid ond wedi ei dymheru â chydwybod, a chalon agored i bob cymhelliad haelfrydig. At y teithi naturiol hyn rhoddasai addysg arw llafur a thlodi iddo feiddgarwch i fentro ac amynedd i ddyfalbarhau. Rhoddai ewyllys gref Remy iddo ymddiried ynddo'i hun. Gwylaidd a gostyngedig oedd gyda'r sawl a garai; ond balch ac anhyblyg o flaen pwy bynnag a fynnai ddiystyru ei hawliau; mewn gair, yr oedd iddo anian lawn ynni a thynerwch a weddai cystal i fywyd tawel ag i brofiadau celyd. Ac yr oedd y tad Cyrille hefyd wedi ei fabwysiadu yn ei galon. A chan na fedrai gychwyn yr ymchwil angenrheidiol i ddod o hyd i'w deulu, mynnodd o leiaf wybod ei ffortiwn.

Nid swyngyfaredd y cyfrifid sêr-ddewiniaeth yn y bymthegfed ganrif, ond gwyddor onest yn deilliaw o gosmograffi. Sylwid dan ba blaned y ganesid dyn, ac yn ôl perthynas y blaned honno ag arwydd y Sidydd y dibynnai arno—mewn undeb, mewn gwrthwynebiad, mewn pellter neilltuol, uwchlaw neu islaw—felly y darllenid dyfodol y sawl a lywodraethid ganddi. Ymhellach, delid bod perthynasau neilltuol rhwng deuddeg tŷ'r haul â rhannau arbennig o'r corff neu actau arbennig mewn bywyd. Wrth gymhwyso at y pethau hyn reolau rhifyddeg ceid gafael ar y wybodaeth angenrheidiol i ddweyd ffortiwn dyn â'r un sicrwydd ag y rhagfynegid ymddangosiad comed. Yr oedd yn y prif drefi, hefyd, ser-ddewiniaid trwyddedig yn arfer eu dawn yn gyhoeddus. Cyflogai'r brenhinoedd a'r pendefigion hwythau rai i'r un perwyl. Chwiliodd y brawd Cyrille dynghedfen Remy yn ofalus. Darganfu y byddai newid pwysig yn ei ffawd pan ddeuai'r lleuad i undeb â'r Pysgod, a bod arwydd y Forwyn ac arwydd Mawrth yn ffafriol iddo; ond bod ganddo le cryf i ofni arwydd y Tarw, ac y deuai awr braw ei fywyd ar ymddyrchafiad y blaned, hynny ydyw, pan fyddai uwchlaw'r Sidydd.