"Ewch i chwilio," ebr y saethydd gan droi i ffwrdd. "Ond myn Satan, cymerwch ofal rhag cyfarfod â'r arglwydd de Flavi ar y ffordd."
Mynnai'r tad Cyrille ddal y milwr yn ôl, ond cyrhaeddodd y porth, neidiodd ar ei farch, a diflannodd gan adnewyddu ei rybudd.
Nid oedd angen am y rhybudd i beri i'r mynach ddeall yr anawsterau a'r peryglon y byddai'n rhaid i'w gyfaill ifanc eu gorchfygu; ond nid oedd hwnnw yn meddwl am danynt; eithr yn ei frwysgedd mynnai gychwyn ymaith yn y fan. "Y mae gen i fam." Yr oedd y gri hon a godasai o'i fynwes dan ias gyntaf syndod a llawenydd yn awr yn ei hail adrodd ei hun yn ddibaid yn ei galon. Nid oedd, mwyach, yn amddifad, nid oedd, mwyach, yn dlawd, nid oedd, mwyach, yn ddinod! Gallai obeithio bodloni'r greddfau o dynerwch ac egni a deimlai o'i fewn; cymerai ei le yn y teulu dynol ymhlith y sawl a feddai hawl i ewyllysio, i weithredu! Yn ofer y ceisiai'r brawd Cyrille farwhau'r awydd tanllyd hwn, a gohirio'r ymchwiliadau; tystiai Remy na allai oedi, ei fod yn teimlo ynddo fath ar rym anweledig a'i gwthiai ymlaen.
"Ond ystyr, was truan, na wyddost ti fwy am dy fam na'i henw hi!" ebr y mynach.
"Mi af i bobman, gan adrodd yr enw nes i ryw wraig fy ateb i," meddai Remy yn ei frwdfrydedd.
"A beth pe bai yn dy wrthod di?"
"Dangosaf brofion iddi."
"Ond beth am flinderau'r daith, y peryglon a'r maglau a ddichon godi o'th flaen?"
"Yr ydych chwi'n anghofio, fy nhad, fod y Forwyn a Mawrth o'm tu."
Gorchfygodd y rheswm olaf hwn y brawd Cyrille.