PENNOD IV
Y flwyddyn 1428 oedd hi, cyfnod yr ymddangosai pob dryglam ynddo fel pe'n uno â'i gilydd i ddifetha Ffrainc. Yr oedd rhyfel, clefydau, newyn ac oerni, y naill ar ôl y llall, wedi degymu'r boblogaeth a diffeithio'r wlad. Gorfodid ein teithwyr i ymgadw rhag y trefi a oedd wedi cau eu pyrth, a chroesi'r wlad a oedd dan orchudd eira; yno cawsant y rhan fwyaf o'r pentrefi wedi eu gadael heb drigiannydd. Amlhai'r anawsterau bob cam gan arafu eu hymdaith o hyd. Rhaid oedd gochelyd y minteioedd Saeson neu Fwrgwyniaid a grwydrai'r wlad i anrheithio hynny a adewsid, y carnladron a gynllwyniai ar y croesffyrdd i ysbeilio teithwyr, yr heidiau o fleiddiaid a ddeuai hyd at amddiffynfeydd y trefi i ymosod ar y gwylwyr! Dedwydd hwy os deuent gyda'r nos ar draws rhyw furddyn, lle y gallent gynneu tân a chael cysgod. Ond i wneud hyn, rhaid oedd gadael y ffyrdd a threiddio i ddyfnderau'r nentydd a'r llwyni. Ym mhobman arall cadwai'r trigolion eu drysau yng nghau, heb feiddio na myned allan, na siarad, na goleuo'r aelwyd, am y byddai i fwg honno eu bradychu. Nid oedd na diadelloedd yn y meysydd, na gweddoedd, na chŵn hyd yn oed—lladdasai'r ysglyfwyr hwy am eu bod yn hysbysu eu dyfodiad.
Fodd bynnag, cerddai Remy a'i arweinydd ymlaen yn ddewr, gan ddioddef, heb gwyno, oerni, blinder a newyn. Wynebai'r llanc bob profedigaeth yn nerth ei obeithion, a'r mynach yn nerth ei wybodaeth wyddonol. Troai popeth iddo ef yn gyfle hyfforddiant neu astudiaeth. Os byddai'r ymborth yn brin, llefarai'n hir ar natur niweidiol y rhan fwyaf o fwydydd a manteision ymborthi'n ofalus; os byddai'r oerni'n fwy miniog nag arfer, mawr a fyddai ei lawenydd am