iddo gael cyfle i wneuthur arbrofion ar ei effeithiau, pwnc, meddai, oedd hyd yn hyn heb hanner ei archwilio; os gwnâi blinder eu haelodau'n anystwyth, eglurai sut y digwyddai hynny, a rhoddai wers i'r llanc mewn difyniaeth yn ôl llyfr[1] Chauliac.
Un hwyrddydd cyraeddasant faesdref La Roche, a losgasid yn ddiweddar gan lu o filwyr. Cawsai'r holl drigolion nodded yn yr eglwys, yr unig adeilad a safai ar ei wadnau; ac yr oedd yn hanner llawn o'r dodrefn geirwon a gipiasid o'r goelcerth. Corlanesid rhai geifr yno hefyd. Ceisiodd y tad Cyrille a'i gyfaill loches yno am y nos.
Eisteddai'r wyth neu ddeg o deuluoedd a giliasai yno yn dyrrau o amgylch y tanau a gyneuasid ar y cerrig, a'r mwg, heb ffordd i fynd allan ond trwy'r ffenestri, wedi ymffurfio'n awyr dew fel mai prin y gallent weled ei gilydd trwyddo. Ond wedi canfod mantell y tad Cyrille, agorwyd y cylch i wneud lle i'r newydd ddyfodiaid.
Syn oedd gan y mynach weled nad oedd yno neb namyn gwragedd a phlant, ond rhoed ar ddeall iddo fod y gwŷr wedi mynd allan gyda'r erydr, a dynnent eu hunain yn niffyg ychen, i lafurio yn y nos; oblegid cymaint oedd anhrefn yr amser annedwydd hwnnw ag na feiddient ymddangos yn y dydd yn y meysydd a lafurient.
A chyda llaw, ni ellir synio dloted oedd y trueiniaid hyn. Gwisgai'r gwragedd grwyn heb eu cyweirio a rhyw garpiau o hen frethyn, a'r glaw a'r haul wedi peri i'w liw ddiflannu, a'r plant fatiau geirwon o wellt plethedig. Er hyn oll, cynygiasant i'r ddau deithiwr gyfran o'u swper prin—ychydig o laeth geifr a gwreiddiau wedi eu coginio yn y marwor. Eu hesgusawd dros fethu cynnyg cig oedd bod eu gwartheg a'u moch wedi eu lladrata gan y milwyr a losgasai'r faesdref. Ond maentumiai'r brawd Cyrille fod cig ych, yn ôl Galen,[2]