yn peri rhwymedd, a chig moch yn achosi pruddglwyf; a dechreuodd roddi darlith faith wedi ei britho â Groeg a Lladin, i brofi bod pob afiechyd yn codi oddiar brinder neu ormodedd irnaws, mai ymborth llysieuol oedd y goreu at ddal y fantol yn wastad yn hyn o beth, ac am hynny yr unig un sy'n cytuno'n drwyadl â dyn.
Wedi tymheru fel hyn â geiriau doethineb brinder y wledd, yr oedd ar fedr gorwedd gyda Remy ar laesod o ddail a daenesid gyda'r mur pan glybuwyd trwst carnau meirch o flaen y porth. Cododd y gwragedd mewn dychryn, yn ofni mai rhyw haid o anturiaethwyr oedd yno; ond ni rifai'r marchogion oedd newydd ddisgyn oddiar eu meirch fwy na phump, a dymunai eu harweinydd wrth ddod i mewn heddwch Duw i'r gwragedd a redasai at y drws. Yna cerddodd ymlaen i'r gafell, penliniodd yn ddefosiynol a gweddïodd.
Yr oedd Remy ar ei lwybr, a methodd beidio a dangos arwydd o syndod, a chynhyddodd ei syndod wrth edrych arno'n codi.
"Tybed dy fod yn adnabod y gŵr ifanc hwn?" holai'r brawd Cyrille, wrth sylwi ar ei syndod.
"Goleued Duw fi os oes rhyw ledrith yn fy nhwyllo," atebai'r llanc; "ond dwg y gŵr i'm cof linell am linell wyneb y llances a fu'n estyn croeso i mi flwyddyn yn ôl yn Domremy."
"Pwy sy'n sôn am Domremy?" ebr y dyn dieithr, gan droi'n sydyn.
Ac wedi i'w lygaid ddisgyn ar ddisgybl Cyrille, ychwanegodd:
"Ar f'enaid i! Dyma'r bugail geifr y mynnai gwŷr Marcey ei ladd."
"Felly, nid wyf wedi camgymryd," meddai Remy, "Jeanne Romée yn wir ydych chwithau?"