"Do," ebr y cennad gan droi.
"Y mae yna rywun yn y fan yna ar y llaesod dail."
"Mynach sydd yna'n cysgu."
"A oes rhywun gydag o?"
"Nac oes, neb."
Bodlonwyd y saethydd; ail gychwynnwyd yr ymgom, a pharhaodd eto beth amser; yna aeth y ddau i gysgu oddeutu'r lludw tân a ddiffoddasai.
Ond cyn dydd, clywid llais Jeanne; deffro ei chymdeithion yr oedd.
"Dowch, Meistr Jean de Metz, Meistr Bertrand de Poulengy," ebr hi, "y mae hi'n amser i ail osod y troed yn yr wrthafl i fynd lle yr enfyn Duw ni."
Ymysgydwodd y boneddigion oddiwrth weddill eu cwsg a chyfodasant. Wedi i'r llances offrymu gweddi mewn llais uchel, cyfrwywyd y meirch ac arweiniwyd hwy allan dan y porth, lle y neidiodd pawb i'w gyfrwy.
Dechreuai'r wawr dorri erbyn hyn, a chanfu Jeanne fod y cennad ac Exaudi Nos yn cadw yn agos ati; aeth trosti ias fel pedfai'r olwg arnynt wedi deffro ynddi'n sydyn gof am rywbeth; galwodd ati Jean de Metz.
"A wyddoch chwi, Meistr," gofynnai, "paham y mae'r ddau ddyhiryn hyn yn eu gosod eu hunain, y naill ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr aswy, i mi?"
"Paham hefyd, ond i'ch gwasanaethu fel arweinwyr," atebai'r gŵr bonheddig.
"Yn union fel y dywedwch," atebai Jeanne. "Ond gadawer i ni wybod i ble y dymunen' nhwy f'arwain i."
"At y brenin, yn ddiddadl."
"Y chwi sy'n ateb yn eu lle nhwy; ond y mae i mi syniad arall; a chan na fynnan' nhwy siarad, fe siaradaf fi trostynt."
"Trosom ni!" meddai'r ddau ddyn mewn syndod.