"Myn Lazarus Sant! am fyrred eich amynedd mi ddangosaf i chwi ffordd a'ch dwg o flaen y llywodraethwr yn ddioed; ond fe olyga hynny ddioddef ychydig ddyddiau o newyn a chysgu ar y ddaear."
"Pa wahaniaeth, cyd ag y galluogo hynny ni i brofi ein diniweidrwydd?" atebai Cyrille.
"Wel ynte," ebr y carcharor, "o heddyw ymlaen gwrthodwch dalu wyth geiniog ardreth y carchar; cewch fynd wedyn at y rhai sy'n cysgu yn y gwellt ar y llawr; ac am na fyddwch mwyach o ddim elw i'ch ceidwad, fe ofala ef am fynd â chwi ar eich union o flaen yr arglwydd lywodraethwr."
Cymerodd Cyrille y cyngor, a digwyddodd y peth a ragwelsai'r crwydryn. Am na châi ceidwad y carchar oddiwrthynt mwyach ddim ond y drafferth o'u gwylio, arweiniwyd y mynach a Remy yn fuan o flaen y llywodraethwr i'w holi.
Cawsant hwnnw yn eistedd wrth fwrdd llawn o gwpanau a llestri piwtar. Gŵr oedd ef oddeutu deugain oed, dipyn yn dew, ond a'i bryd wedi melynnu yn yr haul a'r gogleddwynt. Talcen isel oedd iddo, a threm falch, a'r math hwnnw ar wefusau teneuon sy'n awgrymu cybydd-dod a dideimladrwydd.
Ar y pryd yr ymddangosodd y ddau garcharor, daliai tuag at ei yswain gwpan mawr euraid.
"Tywallt," ebr ef, "yr Iddewon sy'n talu am y gwirod bendigaid."
"Ar yr amod y telir y pris amdano iddynt ar ei ganfed," sylwai un o'r gwesteion.
"Yn siwr, y mae'n gywilydd o beth fod holl aur y bendefigaeth yn mynd i gyfoethogi'r giwed aflan yma," ebr un arall, "y mae'u pyrsau hwy'n llawnion o'n haddewidion a'n biliau ni."
"Heb sôn eu bod yn meiddio bygwth rhoi cyfraith arnom," meddai trydydd gŵr.