"Beth ydych chwi'n siarad?" atebai'r llywodraethwr, "onid ysgrifenson nhwy at y brenin er mwyn iddo wneud i mi dalu 'nyledion?"
"F'arglwydd, oni wnewch chwi'n hachub ni rhag y bleiddiaid rheibus hyn?"
Amnaid a thrawiad amrant gan y gŵr tew.
"Cymerwch dipyn o bwyll," ebr ef, "fe ddyfeisir moddion i beri iddyn nhwy'ch gollwng chwi'n rhydd o bob dyled, a hynny cyn bo hir. Fy nghyngor i ydyw bod i ni yfed beunydd yn wrol, heb boeni am ddim arall ar hyn o bryd."
Parasai lenwi ei gwpan o'r newydd, a dechreuasai ei gwacâu pan ddaeth y brawd Cyrille a Remy o'i flaen. Ymataliodd ar ganol ei ddiod offrwm.
"Wel, beth sydd?" meddai, "o ble daeth yr offeiriedyn a'r gwalch ifanc?"
Yna, fel pe bai wedi cofio'n sydyn:
"O ie, mi wn," âi ymlaen, "rhai o ysbïwyr Bedford eto? Rhaid iddynt dalu pridwerth, myn gwaed Duw! Boed iddynt dalu pridwerth neu croger hwy."
"O'r goreu," ebr y mynach yn benderfynol, "ond nid yw yr un ohonom ni wedi haeddu na'i brynu na'i grogi; nid cenhadon Bedford mohonom, ond Ffrancwyr cywir."
"Ho, mi 'rwyt ti am fy ngwneud i 'n gelwyddog, a wyt ti?" meddai'r llywodraethwr, a bwrw trem groes ar y mynach. "Gwaed Duw! Hwyrach dy fod di'n credu bod arna i ofn d abid di?"
"Yr wyf yn credu y bydd iddi sicrhau i mi barch," ebr Cyrille yn eofn, "oblegid lifrai gwas Duw ydyw hi."
"Myn y nef! Ni'm dawr pa un ai Duw ai diawl a'i piau," gwaeddai ei arglwyddiaeth. "Pwy wyt ti? O ble 'rwyt ti'n dod? Beth wyt ti'n ei geisio yma? Ateb yn awr ar d'union, neu ynte mi wna' i ti a dy gyw grogi ar un o'r