a llwy y gwesteion. Fe dâl Duw i chwi am a wnaethoch heddyw i deithwyr truain."
Ymgroesodd gwraig y tŷ ac ochneidiodd.
"O na wrandawai Efe arnoch, fy mharchedig," hi furmurai, "o achos y mae o 'n ymweled yn drwm ar bawb am feiau'r ychydig."
"Och fi, 'rydych chwi'n iawn," atebai'r tad Cyrille yn dyner; "dyma'r deyrnas wedi ei thraddodi i ddwy genedl a dau dywysog heb alwedigaeth arall ond dinistrio'i gilydd; hefyd, ni fedr neb ddweyd pa bryd y derfydd ein gofidiau oni bydd i'r Drindod ei hun ofalu am danom."
"Hwyrach fod yr amser i drugarhau wedi dod," sylwai'r wraig, "canys y mae yna Judith arall eto newydd godi i gadw'r brenin Siarl."
"Judith arall!" meddai'r mynach mewn syndod.
"Wyddoch chwi mo hynny?" holai ei gyd ymgomiwr; "ym mis Chwefror cyrhaeddodd merch i Chinon a ddywedai ei bod wedi'i hanfon gan Dduw. Wedi peri ei harholi gan esgobion a chan brifysgol Poitiers gosododd Siarl hi i arwain atgyfnerthion oedd yn mynd i Orleans, ac y mae hi wedi codi gwarchae'r Saeson."
"A ydyw hyn yn bosibl?" ebr Remy ar ei thraws.
"Mor bosibl a'i bod hi ei hun yn Loches, lle y mae'r brenin ar hyn o bryd."
"Yn enw Crist! rhowch i ni fynd i Loches, fy nhad," gwaeddai'r llanc a chodi ar ei draed; "yno y mae'n rhaid i ni fynd."
Cyfeiriodd y wreigdda at beryglon y ffordd oedd yn llawn o finteioedd Seisnig, a'r rheiny oddiar eu gorchfygiad yn Orleans nid arbedent neb. Ond ateb y tad Cyrille iddi oedd na byddai i'r Duw a'u cadwasai ers tri mis eu gadael yn awr. Wrth hynny hithau a fynnai lenwi'r ysgrepan