a gariai'r llanc â lluniaeth, a thrwodd â hi i'r ystafell nesaf i lenwi ei gostrel groen. Ond a hi'n cyfeirio am y seler dyma gnocio mawr ar y drws oddiallan a galw arni hithau wrth ei henw.
"Duw cato ni, dyma Nicolle," gwaeddai hithau.
"Ie, wraig," atebai'r llais, "agor mewn munud, 'rydw'i ar farw o eisio diod a bwyd."
Rhedodd hithau i agor, ac wele ar yr hiniog ŵr melyn ei groen a llawen ei wyneb. Gwisgai fantell pererin a chrogai wrth ei wddf un o'r blychau bychain rhwyllog a ddefnyddid i gludo creiriau i'w gwerthu.
"Iesu Dduw! Y chwi sydd yma mewn difri?" ebr y wraig mewn syndod.
" 'Doeddit ti ddim yn fy nisgwyl i mor fuan," ebr y newydd ddyfodiad; "ond er pan yrrodd Jeanne y Forwyn y Saeson ar ffo ymhobman, y mae'r rheiny wedi troi'n dduwiol, a chyn gynted ag y gwelont fy mantell bererin i, rhedant i brynu creiriau i'w cadw rhag dryglam; felly wedi gwerthu'r cwbl mewn ychydig ddyddiau dyma fi wedi dod yn ôl i atgyflenwi fy mhecyn miraglau."
"Ust, yn îs, druan!" meddai'r wraig ddychrynedig ar ei draws, "y mae yma lanc a mynach."
"Ho, go-dem!"
"Yn enw Duw, tafl y fantell yna mewn munud . . . ."
"Ni waeth iddo fo heb, ddim," meddai'r tad Cyrille, wedi dywed y cwbl o'r ystafell nesaf ac yn dod ymlaen yn awr ag wyneb llym, llidiog.
Ciliodd y wraig yn ôl dan ochneidio. Ond am y pererin, wedi'r syndod cyntaf, edrychai fel pe bai wedi penderfynu dal ei dir.