Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Myn y nef, fy mharchedig, fe fyddwch chwithau'n gwrando cyffes pobol heb iddyn nhwy'ch ameu chwi," ebr ef yn ysgafn a digywilydd.

"Taw, gablwr aflan," llefai'r mynach a'i ddigofaint wedi diffodd ei oddefgarwch arferol; "bererin gau, annuwiol luniwr celwyddau crefyddol, a elli di anghofio'r poenau tragwyddol sy'n siwr o gosbi dy dwyll yn y byd arall?"

"Gwell o lawer gennyf gofio'r elw a wobrwya fy mhoen yn y byd hwn," atebai Nicolle yn eofn. "Myn yr holl ddiawliaid, fy mharchedig, nid gweddus i chwi fy ngheryddu i am fyw ar ffwlbri twyll, ac onestrwydd yn peri i chwithau farw o newyn. Fe fum yn glerc twrne, ac wedi hynny yn ganwr yng nghôr y plwyf, a siwt salw o frethyn eilban a wisgwn, a chaws geifr a bara haidd a gwellt ynddo a fwytawn; ceisiais agor siop groser yn Auxerre, lladrataodd y milwyr y nwyddau a anfonasid i mi, a bu raid crogi baniar ar y gongl.[1] Wedi methu byw ar fy llafur penderfynais fyw ar f'ystrywiau; nid arnaf fi y mae'r bai, ond ar y sawl a orfu arnaf."

"Och fi, dyna'r gwir," cadarnhâi'r wraig; yr oedd galwedigaeth y pererin gau yn amlwg yn deffro peth poen cydwybod ynddi hi, ond dymunai er hynny ei esgusodi o flaen y mynach. "Ni ddewisodd Nicolle ei grefft, ac os gellir ei feio am yr arian a ennill, fe ŵyr o leiaf sut i neilltuo cyfran at weithredoedd da."

"A'r praw o hynny," ychwanegai'r pererin gan wthio'i law i'w bwrs a thynnu allan ohono amryw ddarnau o arian, "yw fy mod yn erfyn ar y parchedig am iddo beidio a'm hanghofio yn ei weddïau."

Gwrthododd y mynach yr arian.

"Vade retro!"[2] meddai, a chodi'i lef, "arian y diawl ydyw'r rhain! Ni fynna i ddim oddiar law bradychwr Duw. Vade retro!"

  1. nodyn20
  2. nodyn21