Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gadawodd ei gwesteion wrth y drws am funud, a dychwelodd yn fuan efo lamp wedi ei goleuo; ond yn yr olwg ar fantell y tad Cyrille na adawsai'r nos iddi ei gweled cyn hynny, methodd ganddi beidio a dangos ei syndod, neu'n wir, ei hofn.

"Mynach!" ebr hi.

"A fuasai'n well gennych chwi filwr ynte?" holai'r crefyddwr dan wenu; yr oedd eisys yn dechreu dod ato'i hun. "Nac ofnwch ddim, wraig dda, pobl heddychlon ydym ni, a byddwn yn ddwbl ddiolchgar os bydd i chwi, ar ôl rhoi lle i ni dan eich to, ail oleuo eich aelwyd i ni."

Grwmialodd yr hen wrach rai geiriau annealladwy, cymerodd y lamp a gwahoddodd ei gwesteion i ystafell arall nês i mewn; ond yr oedd Remy newydd fwrw golwg tros yr ystafell lle yr oeddynt ar y pryd ac wedi cydio'n sydyn yn llaw'r tad Cyrille, a'i lais wedi newid wrth iddo ei gyfarch:

"Nodded Duw i ni! A welwch chwi ymhle'r ydym ni, fy nhad?"

Cododd y mynach ei ben, a rhedodd ias drosto yntau yn ei dro.

"Onid wyf yn fy nhwyllo fy hun, laboratori'r wyddor ddieflig sydd yma," ebr ef yn fywiog, a'i gywreinrwydd yn amlwg yn gryfach na'i ddychryn.

"Dowch allan, fy nhad, dowch allan," meddai Remy ar ei draws, gan geisio ei dynnu oddiyno.

Ond ni fynnai'r tad Cyrille mo hynny: credai yntau fel pobl yr oes honno mewn tesni; ond er ei fod yn ystyried y peth yn ddysgeidiaeth uniongyrchol y cythraul, rhyfelai'r eiddgarwch gwyddonol yn ei ysbryd yn erbyn ei awydd am iechydwriaeth, a pharai fod ei ddiddordeb yng nghelfyddyd fawr y dewin yn gymaint, a dweyd y lleiaf, â'i arswyd rhagddi.