Yn nirgelwch y laboratori, ceisiasai yntau ei hun yn yr amser a fu gyflawni rhai cyfarwyddiadau dewinol; ac os oedd bellach wedi peidio â phethau felly yr achos am hynny oedd aflwyddiant ei gynygion cyntaf ac nid ei uniongrededd. Yr oedd cyfarfod â merch wedi ymroi i'r wyddor ddamniol hon yn ail ddeffro'r hen awyddfryd o'i fewn, ac edrychai o'i ddeutu yn awchus.
Yr oedd y math ar ogof yr oedd ynddi yn llawn o bob siort o'r gwrthrychau dirgel a ddefnyddir mewn swyngyfaredd: crochanau o wahanol faint i ferwi swynion serch, cudynnau gwallt y gellid eu newid yn ddarnau aur, drychau dur caboledig y gallai'r gelfyddyd ddewinol ddangos ynddynt wynebau'r absennol, ffyn cyll at gyfeirio'r cymylau, delw gŵyr â nodwyddau dur, hirion, yn ei chalon i ddwyn marwolaeth ar y sawl a gynrychiolid ganddi, esgyrn dynol, cortynnau crogi,[1] pennau gwiberod at wneud y mathau o enaint sy'n newid ffurf pobl. Ond y peth a drawodd lygaid y tad Cyrille yn anad dim oedd llyffant du anferth yng ngharchar dan belen wydr. Gwisgai hwnnw ar ei gefn fantell fechan o sidan symudliw a arwyddai ei fod wedi ei fedyddio gan offeiriad cableddus; ac ar ei ben yr oedd math ar grib disglair.
Nid oedd yr hen wrach yn ddall i gywreinrwydd sylwgar y mynach; ac ychwanegodd hithau ato trwy lafarganu, fel math ar fygwth, y gwahanol ddoniau a berthynai i'w chelfyddyd.
Yr oedd Remy bron llewygu gan ddychryn, ac fe fynnai ruthro allan trwy'r drws; ond rhwystrodd y tad Cyrille ef oblegid yr oedd ef yn rhyfeddu yn gystal ag ofni.
"Aros," meddai, "aros ac ymgroesa; ni all grym y cythraul orchfygu arwydd y Prynedigaeth. Yn enw y Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân, yr wyf yn gorchymyn i ti, wasanaethydd Astaroth a Beelzebub, i beidio â'th fygwth ac ymwrthod â'th swyngyfaredd."
- ↑ nodyn23