Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Peidiodd y ddewines, a safodd heb syflyd am ysbaid yn agos i'r drws. Nid amheuai'r tad Cyrille nad ufuddhasai hi er ei gwaethaf i'r geiriau grymus a lefarasai ef; ond rhyw ymwrando yr oedd yr hen wrach, ac yn sydyn dynesodd atynt, ac ebr hi:

"Y mae rhywun yn dod i ymgynghori â brenhines Neuville."

" 'Rwyt ti wedi cael rhybudd o hynny gan y cythraul?" holai'r mynach mewn syndod.

"Y mae yna amryw," ychwanegai'r ddewines, a throi'i chefn at y drws; "mae nhwy'n arfog; ymneilltua gyda'r llanc a gad i mi ymddiddan â hwy ar fy mhen fy hun."

Cydiodd yn y lamp a cherddodd at un o'r ystafelloedd nesaf; yno y gwnaeth i'w dau westai fyned.

Ogof eang ydoedd hon, ac yn ei phen draw yr oedd tanllwyth braf o dân a llaesod o ddail sychion. Cynghorodd brenhines Neuville y ddau deithiwr i ymdwymno a gorffwys, ac yna gadawodd hwy a chaeodd y drws ar ei hôl.

Yr oedd dychryn Remy ymhell o fod wedi diflannu. Ceisiai'r mynach ei dawelu ei oreu trwy ei sicrhau y gellid gorchfygu geiriau dewiniaeth â'r geiriau a ddefnyddid i fwrw allan gythreuliaid. Wedyn neshaodd at y tân a phrociodd ef, a chymhellodd y gwas ifanc i eistedd gydag ef ar y llaesod dail.

Ond dyma lais yr ymwelwyr newyddion i'w glywed o'r ystafell nesaf. Neshaodd Remy yn ofalus at y drws a gaeasai'r hen wrach, ac wrth osod ei lygaid ar y craciau rhwng yr ystyllod anwastad, gwelai'n eglur yr holl bersonau yn yr olygfa a chwaraeid yr ochr arall.

Safai brenhines Neuville ar ei thraed rai camau oddiwrtho, a daliai yn un llaw wialen haearn, a gorffwysai'r llaw arall ar y belen wydr a orchuddiai'r llyffant bedyddiedig. Yn agos