"Felly, ac 'rwyt ti'n siwr dy fod yn adnabod y llanc ifanc a'r mynach?"
"Cyn siwred a 'mod i 'n eich gweled chwi."
Daeth golwg galed a phenderfynol ar wyneb yr arglwydd de Flavi. Syllodd am foment ar y carcharorion, fel pedfai wedi penderfynu ynddo'i hyn pa beth a ddylai ei wneuthur; yna cerddodd yn chwyrn tuag atynt.
"Myn y mil diawliaid! Ni ddihangant o'n dwylo ni'r waith hon," ebr ef; " 'wnawn ni'r un goelcerth yn y fan yma i achub y bradwyr."
"Na soniwch am fradwyr, f'arglwydd," ebr Cyrille, "oblegid gwyddoch ein bod ni yn Ffrancwyr cywir."
"A feiddi di edrych ym myw fy llygaid i ac ateb mor wyneb galed â hyn'na, fynach gau?" meddai de Flavi yn ddigllon ar ei draws. "Ar fy Nuw! Mi wnaf esiampl o'r gwŷr anfad hyn sydd wedi gwerthu Ffrainc i'r tramorwyr."
Cododd murmur o gymeradwyaeth o blith y gwŷr arfog a gylchynai'r carcharorion.
"Ie, ie, y mae eisio gwneud esiampl," meddai lliaws o leisiau. "Cortyn, dowch â chortyn!"
"Dyma fo," gwaeddai Richard; yr oedd wedi tynnu penffrwyn un o'r meirch cynhorthwy.
"Hwrê! Hwrê!"
"Wneiff hwn'na ddim crafat i ddau," sylwai un o'r gwŷr arfog.
"Pob un yn ei dro, fel y bydd y gwylwyr," atebai un arall.
"Â phwy y dechreuwn ni?"
"Efo'r mynach, efo'r mynach."
"Nage," ebr de Flavi, "efo'r bachgen."
Yr oedd Exaudi Nos wedi dwyn march at y goeden; a chan godi ar ei draed ar y cyfrwy, cydiodd mewn cangen a chlymodd gynffon y penffrwyn wrthi. Mynnai'r ddau filwr