Tudalen:Bugail Geirf Lorraine.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gydio yn Remy i'w godi at ben arall y cortyn, ond hyrddiodd y tad Cyrille ei hun rhyngddynt.

"Na leddwch ef," llefai'n wyllt, "yn enw y Duw byw, na leddwch ef; nid ysbïwyr mohonom. Fe ŵyr yr arglwydd de Flavi hynny . . . . o achos y mae ei saethydd yn ein hadnabod. Y mae o wedi cael croeso yn ein mynachlog ni; fe iacheais i 'r clwyf ar ei goes dde. 'Rydw i 'n ei dynghedu o i ddweyd y gwir yn y fan yma."

"Onid oes neb â choes chwip ganddo i gau safn y clebryn hwn?" llefai de Flavi ar ei draws.

"Llefared y saethydd! 'Rydw i 'n tynghedu'r saethydd!" gwaeddai'r mynach drachefn.

"Brysiwch," ebr y llywodraethwr, "crogwch y llefnyn, crogwch o!"

Ond llwyddasai'r tad Cyrille i dorri'r rheffynnau a'i rhwymai, a pharhai i amddiffyn Remy fel un gorffwyllog.

"Na," ebr ef, "fedrwch chwi mo'i ladd o â chortyn . . . . y mae o o waed bonheddig . . . . amddiffynnwch o, fy meistriaid; rhowch gyfle o leiaf i chwilio beth yw'r gwir; rhowch amser i ni brofi pwy ydym ni . . . . bradwriaeth ydyw hyn . . . . llofruddiaeth . . . . y mae ar yr arglwydd de Flavi eisio rhoi diwedd ar berthynas . . . ."

"Oni orffenni di byth, saethydd uffern?" bloeddiai de Flavi yn welw'i wedd ac yn cau ei ddwrn ar Exaudi Nos. "A chwithau'r lleill o honoch chwi, 'fedrwch chwi ddim rhoi pen ar fynach a phlentyn? Tynnwch y cortyn, yn enw'r nef, tynnwch y cortyn; ac os na fedrwch chwi ei grogi o, agorwch ei wddw fo â chleddau."

Wrth ddwedyd y geiriau hyn, tynnodd ef ei hun y miséricorde[1] a gariai yn ei wregys hanner y ffordd o'r wain; ond aflonyddwyd arno gan floeddio a chynnwrf sydyn ymhlith y gwŷr arfog a'i canlynai; yr oedd llu o farchogion newydd

  1. nodyn 27