ymddangos yn nhroad y ffordd, ac yn nesu atynt ynghanol cwmwl o lwch. Oddiwrth eu gwisgoedd o sidan ac aur, a'r plu a addurnai eu helmau a'u meirch, gwelai pawb mai gwŷr meirch y brenin oeddynt.
Yn eu canol yr oedd Siarl VII, ac yn ei ddilyn y cwnstabl de Richemont la Tremouille, a'r Forwyn gyda'i baniar o frethyn ymyl aur; ar y faniar hon yr oedd llun Crist yn ei lys ar y cymylau, ac yn dal yn ei law bellen y byd; islaw yr oedd dau angel yn addoli, ac yn ysgrifenedig mewn llythrennau aur Ihesus Maria.[1]
A phelydr heulwen arnynt yn peri i'w gwisgoedd a'u harfau ddisgleirio, daeth y llu ar eu hunion tuag at yr arglwydd de Flavi a safasant heb fod yn nepell oddiwrth y gollen Ffrengig.
Wedi adnabod y brenin rhedodd yr holl wŷr arfog am eu meirch er mwyn ffurfio eu rhengau i roddi derbyniad iddo; a rhaid oedd i de Flavi wneuthur yr un modd. Y tri milwr yn unig a arhosodd gyda'r mynach a Remy; ond gollyngasant yr olaf, a godasid ganddynt at y cortyn, a gadawsant iddo ddisgyn i'r llawr.
Am ysbaid yr oedd llygaid pawb, hyd yn oed y carcharorion, ar y llu buddugoliaethus oedd newydd gyrraedd. Ymryddhaodd y cylch y safai'r brenin yn ei ganol yn araf oddiwrth y lleill, a dod ymlaen at gwmni yr arglwydd de Flavi, a oedd erbyn hyn yn sefyll yn eu rhengau. Ymdeithiai'r Forwyn ar ddeheulaw Siarl wedi ymwisgo mewn llurig a wneithid yn arbennig iddi, ac wrth ei gwregys y cleddyf â'r pum seren ar ei garn,[2] a gawsid yn eglwys Fierbois; yr oedd ei mwgwd i lawr fel pedfai'n myned i frwydr.
Pan gyrhaeddodd hi o fewn ychydig i'r goeden gwelodd y mynach a'r llanc ifanc wedi eu rhwymo, a sylwodd ar y cortyn yn crogi wrth y gangen.