eu hunain yn brofion digonol i berswadio eraill; ond pan ddaeth yr awr i ddangos gwerth eu profion dechreuasant ofni ac ameu! Dyna dystiolaeth Remy, a datganiad y bugail geifr a'i derbyniasai i'w hategu: ai digon hyn i argyhoeddi'r arglwyddes de Varennes i ddechreu, ac wedi hynny y gwŷr a osodid i farnu'r achos? A dyna'r arglwydd de Flavi, a lwyddai ef i godi amheuon er ei fudd ei hun? Yr oedd y tad Cyrille wedi byw rhy 'chydig ymhlith dynion i wybod sut i ddrysu eu cynllwynion, ond yn ddigon hir i'w hofni, a theimlai'n bur anesmwyth ynghylch canlyniad y praw.
Marchogent ar hyd y dydd, y naill yn ymyl y llall, a'r ddau yn ymboeni ynghylch y praw oedd i ddod heb feiddio sôn amdano wrth ei gilydd. O'r diwedd, tua'r hwyr, gwersyllodd yr holl lu yng ngolwg castell de Varennes, a daeth Ambleville, un o herodron arfau'r Forwyn, i gyrchu Remy a'i arweinydd.
Yn y neuadd fawr cawsant Jeanne â llawer o esgobion a gwŷr bonheddig a ffurfiai gyngor y brenin o'i hamgylch. Yn agos i'r porth yr oedd yr arglwydd de Flavi â golwg ffyrnicach nag arfer arno.
Y foment y daeth y mynach i mewn efo Remy cerddodd y Forwyn tuag atynt.
"Yn enw y Forwyn Fair," ebr hi, "dowch ymlaen heb ofn, a dangoswch eich profion i f'arglwyddi sy'n wŷr doeth. Os ydych yn dweyd y gwir, ac mi gredaf eich bod, fe'u cewch yn llawn tosturi."
Moesymgrymodd Cyrille yn barchus o flaen aelodau'r cyngor.
"Duw a roddo hynny iddynt," ebr ef efo'r math o urddas na cheid mohono y pryd hwnnw ond ynglŷn â gwisg crefyddwr, "canys dywedir yn yr Ysgrythur: 'A pha farn y barno dyn, y bernir ef.' "