Ond neidiasai Jeanne i'r llawr i godi'r mynach, ac ebr hi dan deimlad mawr:
"O Iesu, mae o wedi brifo. Cynorthwywch fi i'w ymgeleddu, fy meistriaid, y mae 'nghalon i'n torri wrth weld gwaed Ffrancwr yn llifo."
"Yn wir, nid gweithred gŵr bonheddig mo honyna," meddai'r brenin yn llym.
"Na," ebr y Forwyn, "nid yw'r gwir farchog byth yn taro'r gwan; ond, ar f'enaid i, ni chaiff y rhain fy ngadael i mwy, a chyda nawdd ein brenin hael, ceir gweled ai gwir y peth a ddywedant."
"Peth hawdd fydd hynny," ebr Siarl; "heno fe fyddwn yn myned heibio i gastell de Varennes. Cymerwch eich noddedigion, Jeanne, fe'u gosodwn nhwy gerbron yr arglwyddes de Varennes a gwŷr doeth i benderfynu'r achos."
Gyda'r geiriau hyn trodd ben ei farch a chychwynnodd i'w daith. Galwodd Jeanne yn union ar y brawd Jean Pasquerel, darllenydd mynachlog yr Awstiniaid yn Tours, gŵr a roddasid iddi yn gaplan preifat, ac i'w ofal ef yr ymddiriedodd y ddau deithiwr. Archodd hefyd i'w hyswain, y marchog Jean d'Aulon, geisio meirch iddynt; ac wedi eu calonogi â geiriau duwiol, ail ymunodd â gosgordd y brenin.
Wedi eu gadael iddynt eu hunain y peth cyntaf a wnaeth y tad Cyrille a Remy oedd gweddīo'n daer ar Dduw a diolch iddo am y swcwr heb ei ddisgwyl a anfonasai iddynt.
Ond os oedd y perigl wedi myned heibio, yr oedd y praw pwysicaf eto o'u blaenau; ymhen ychydig oriau penderfynid tynged Remy, a pharai meddwl am hyn i'r ddau grynu rhag eu gwaethaf. Cyd â'u bod ymhell oddiwrth eu nod, llanwai anawsterau'r daith eu holl fryd a threthu eu holl egni; ni phoenent am y moddion i brofi dilysrwydd hawliau Remy; yr adeg honno ymddangosodd seiliau eu cred hwy