naill na'r llall eu haddewid iddi hi. Yn wir, ni chlybuwyd son am un ewyllys, a pherthynas agosaf Sion, sef Tomos Bwen, Pencnwc Bach, a ddaeth i feddiant o'r Mwyndir a'r medliannau.
Llwm yn wir, ac anghysbell oedd Moelygaer. Yr oedd y tai bron yn adfeilion, a'r heolydd arweiniai tuag yno yn droiog a blín i'r eithaf. Ac mor brudd oedd popeth o'i gylch! Nid oedd y môr yn y golwg, ond clywid ei ru lleddf yn fynych, a than ei awel, plygai a gruddfannai beunydd bob coeden a phob llwyn ger y fan. Ar y rhandir moel hwnnw, anaml cedd y preswylwyr, a phell bell o'r tyddyn bach oedd y capel, yr ysgol, a'r pentref.
Ychydig o ogoniant bywyd prio lasol brofwyd gan Gruffydd a Chatrin Elis. Prin yr adfeddiannodd Catrin ei hiechyd wedi'r tân. Cafodd fab i'w llonni, ond ni ddychwelodd iechyd a hoen y dyddiau gynt. Helbulus fu eu bywyd ar y tyddyn. Nid heb lawer o bryder y cesglid deuddeg punt bob hanner blwyddyn at yr ardreth, a chyn bod yn hanner cant oed, crymai'r ddeuddyn dan bwys gofalon a llafur caled.
Yn nhymor ei febyd, ei dad a'i fam oedd prif gwmni Owen Elis. Yn ystod nosweithiau hirion y gaeaf, dysgodd ddarllen—a'i fys bychan yn dilyn bys ei fam ar hyd dail yr hen Feibl. Dysgodd adnodau ac emynau dirif, a buan daeth i ddarllen pob llyfr a feddai ei rieni,—hen rifynnau melynwawr o Gronicl S.R.,—rhai diweddarach o'r Dysgedydd a'r Tywysydd, ac Esboniad Barnes ar yr Efengylau. Am dymhorau, yn awr ac yn y man, cai fynd i ysgol y pentref, a dysgai yno hefyd yn awchus, nes synnu o'r cymdogion at ei wybodaeth, a rhyfeddu beth ddeuai o hono, a pha anrhydedd a'i harhosai.
Eithr prudd iawn, ac amddifad iawn o bleserau rhai o'i oed oedd bywyd y bachgen. Yn y rhan honno o'r wlad, gwelid angladdau yn llawer amlach na phriodasau, ac eid i dy galar yn llawer mwy mynych nag i dŷ gwledd. Medrai Owen ganu, ond prin y gwyddai unrhyw dôn heblaw hymnau, ac anthemau, a'r rhai hynny gan mwyaf yn rhai lleddf. Swn cwynfan dan orthrymder, a hiraeth am wlad well, lle ca'r blinedig orffwys, ac y peidia'r annuwiolion â'u cyffro, glywid