gynt, Sul a gwyl, haf a gaeaf, yn yr ardal honno fel mewn llawer ardal arall yng Nghymru.
Mewn awyrgylch felly tyfodd Owen Elis hyd yn bymtheg oed. Un bore Sul yn y Gwanwyn, deffrôdd y llanc o gwsg Buasai y Sadwm cynt yn llyfnu'r tir yn galed drwy trwm. y dydd, a gadawsai ei rieni tyner ef ar ei wely i ddadflino tra y buasent hwy eu dau yn cyflawni eu goruchwylion arferol cyn boreufwyd. Cododd Owen ar ei eistedd, gwelodd yr haul yn uchel yn y ffurfafen; plygodd dros erchwyn ei wely er mwyn ceisio darganfod drwy'r symudiadau yn y gegin pa amser oedd. Clywodd un yn chwythu'r tân yn aiddgar, ac un arall yn arllwys llaeth o bedyll."
Twimo llâth i'r lloi. Biti saith i'w i," ebe Owen rhyngddo a'i hun.
Cyn iddo orwedd yn ol, daeth llais ei dad i fyny ato yn groew drwy ddwndwr y pedyll llaeth a'r chwythu.—
"Odw, Catrin, wi am i Owen fod yn brigethwr."
Rhyw ochenaid ddofn oedd atebiad y fam, ochenaid oedd fel pe yn cyfleu na fedrai hi feddwl am ddim gogoneddusach mewn bywyd, ond bod y delfryd, O! mor bell ac anghyraeddadwy.
Aeth gwaith y gegin yn ei flaen, ac arhosodd Owen fan honno, vn plygu dros erchwyn ei wely ac yn dwys feddwl. Bedair blynedd ymhellach yr oedd Owen Elis yn fyfyriwr yn ysgol ramaderol Maesyrhaf, a chynllun ei fywyd wedi ei dynnu allan yn glir yn ei feddwl. Onid cedd son drwy'r oesau am bobl neilltuol wedi eu galw i waith neilltuol, a llaw Duw wedi eu llywio o'r dechreu drwy gaddug a niwl? Dvna Joseph, a Moses, Daniel a Phaul. Un felly ar raddfa lai oedd yntau yn ddiddadl, neu paham vr oedd mor anhebig i blant o'i oed? Paham y daliasai difrifwch bywyd ef mor fore? Paham y rhodded iddo dalentau yn anad neb o'i gyfoedion? Oedd, yr oedd gwaith neilltuol ar ei gyfer yntau.—pregethu'r efengyl, efallai yn dra gwahanol ac yn fwy rymus na neb yng Nghymru. Buasai Duw yn siarad ag ef ar hyd y blynyddau, geiriau ei dad ar y bore Sabath hwnnw, a'i deffroisai i glywed yr alwad.
Gartref ar y tyddyn, llafuriai ei dad a'i fam fore a hwyr i ddwyn eu breuddwyd gogoneddus i ben.