Tra yn yr ysgol a'r coleg, yn ymgymysgu a chwmni llon y lleoedd hynny, cafodd Owen Elis olwg newydd ar fywyd, a golwg newydd ar ei natur ei hun. Yr oedd yno dwr o fechgyn ieuainc fel yntau, â'u hwynebau ar y weinidogaeth, ond nid oedd pwysigrwydd y gwaith na dwyster yr alwad refol wedi dwyn rhyw ddifrifwch neilltuol i'w bywydau hwy. Gwisgai, rhodiai, ymddiddanai a chwarddai y rhan fwyaf o honynt fel dynion ereill. Yr oedd bywyd mewn tref hefyd yn llawer llai llethol na bywyd y wlad. Ni frawychid un yno â mynych orymdeithiau galarus tua'r fynwent brudd. Pan fyddai angladd, eid â'r galarwyr yn frysiog mewn cerbydau cauedig, a dodid y marw allan o olwg gynted ag y gellid rhag aflonyddu ar bleserau'r byw. Nid oedd y nos yno agos mor ddu, na'r gwynt agos mor gwynfannus ag yn ardal Moelygaer.
A daeth blwyddi tirfion ieuengoed a llu o fwyniannau newyddion i'w canlyn. Fel gyda'i wersi a'i bregethau, rhagorai Owen Elis ar ei gyd-efrydwyr ymhob chwareuon a difyr-gampau. Daeth y byd a'i swynion afrifed' i'w ddenu. Daeth Pleser a Chlod i gynnyg eu rhoddion iddo, a graddol, graddol giliodd gogoniant y byd anweledig.
Eithr ataliwyd ef yn sydyn ar ei yrfa i ddinystr. Un prynhawn tywyll o Dachwedd, ar faes y bel droed, anafwyd ef yn enbyd. Pan ddaeth allan o'r ysbyty dri mis ymhellach, yr oedd yn gloff, a dywedwyd wrtho mai cloff a fyddai am y gweddill o'i oes.
Tra'n gorwedd ar ei wely cystudd, cafodd y newydd prudd am farwolaeth ei fam. Methodd fynd adref i roi gair o gysur iddi ar ei gwely angau, ac i gael yr olwg olaf ar ei hwyneb creithiog caredig yn ei harch; a phan, cyn diwedd y flwyddyn ddu, y dilynodd yn gloff, gorff ei dad i'r un fynwent lonydd, dywedai gyda'r Salmydd, "Amgylchynaist. fi yn ol ac ymlaen, a gosodaist Dy law arnaf." Byth ar ol hynny, ni chollodd olwg ar ei etholedigaeth ac amcan mawr ei fywyd. Croeshoeliwyd y byd iddo, ac yntau i'r byd. Ddwy flynedd wedi marwolaeth ei dad, a chyn gorffen ei dmor yn y coleg, cafodd alwad i fugeilio eglwys Annibynnol Bryngwynli. Atebodd hi, a dechreuodd ar ei waith yno, fel y gwelwyd eisoes, ar ddechreu'r flwyddyn newydd.