III.
Mesur wnaent y byd a'i bwyso,
Coll a rhinweddau ifanc a hen.
—LLEW TEGID.
"HELO! Wês pobol miwn ma: "ebe rhywun mewn llais dolefus wrth ddrws Penffynnon, bwthyn Nani a Sali, drannoeth y cwrdd gweddi.
"Wês, dewch miwn," ebe Sali, gan godi i roi cadau wrth y tân, a thynnu ei ffedog drosti, rhag ofn fod llwchyn wedi cymeryd yr hyfdra o ddisgyn arni, wedi goruchwyliaeth y glanhau yn y bore. "Simid di stôl, dipin, Nani. Dewch ymlân fan hin, Mestres Ifans."
Tua thri o'r gloch yn y prynhawn oedd, yr awr felysaf o'r dydd ym Mhenffynnon, pan oedd y gwaith trymaf wedi ei orffen; y tân megis yn adnewyddu ei nerth wedi ymdrechion y bore, a miwsig y tegell fel llais cyfaill ffyddlon yn swyno'r glust. Awr ffafriol iawn oedd hon i fwynhau un o bleserau prinnaf y byd hwn,—cymdeithas eneidiau cydnaws,—pryd y ceid arllwys cyfrinachau a chyfnewid syniadau ynghylch cwrs y byd. Pa waeth nad oedd y byd" bob amser yn eang, na'r pynciau y ceisid eu dadrys yn rhai ymerodrol, nid oedd eu diddordeb am hynny yn llai. Chwith iawn fuasai gan Anna Ifans, Maesyryn, gael y gair gan neb ei bod yn hoff o chwedleua, ond teimlasai bleser byw iawn y prynhawn hwnnw wrth wisgo'r ffedog liain lân am dani a'r shôl ddu hir am ei gwarr, yn y rhagolwg ar ymgom fach ddifyr ar aelwyd Nani a Sali.
"Welwch chi bith i wei nawr. Nani fach, wedi simid ych stôl, rich o i chi ole'ch hinan," ebe hi wrth Nani, â'r oslef leddf arferol.
"O, mi weia i yn y tewillwch fel yn y gole, os na fidd codi ne istwn gen i, ne godi magle'r sowdwl ne rwbeth," ebe Nani.
"Gnei mi ginta wir, " ebe Sali. "Be si'n dior i ti wei yn y tewillwch, a tithe wrthi trw gidol y didd heb neid dim arall? Dima finne a'r hen hosan ma ar y gweill gen i es