taer wthnos. Ma cimint o waith yn yr hen di ma, Mestres Ifans. Ma rhiw gornel a ise'i lanhai e bob di, a neith Nani ddim cimint a golchi llester os gall i beido."
"Ma rhiwin yn golchi'n rhifedd ma no. Sdim ti glanach yn y gwmdogeth," ebe Anna Ifans.
"Sinni w i na fise'r hen ddodren ma wedi dod o wrth i gili es llawer di, gan gimint ma Sali'n rwto arnin nw," ebe Nani.
"Taw son, Nani! Ddisgest ti'm glanhau ariod. We Miss Martin yn benticilar iawn obiti gadw'r ti'n lân. Fies i'm yn gwsneithi da hi am beder bline heb ddisgi rhwbeth," ebe Sali.
Nid hwn oedd y tro cyntaf i wraig Maesyryn glywed am Miss Martin, felly nid oedd eisieu aros llawer gyda'r pwnc.
"Na fe wir," ebe hi. "Dima ragor o waith gwei i chi, te, Nani. Leicswn i i chi wei par i Morgan. Weles i mo'i bennach e am droilo saneie. Erbyn rhoia i bar newi am i drâd e ma nw'n facse. A sdim torreth ar wei da ni co leni, ma'r ddwi roces yn cal gwaith cadw i hinen mewn saneie, heb son am yn helpi i 'da saneie'r gwrwod. Wedi godro a thendo'r moch co, sdim iste cin swper i gal, a ma'r cwrdde gweddi 'rwthnos hin to bob nos yn, mind' a'r amser. Dima dipin o ddafe gwin at y brigin a'r blân, a'r dafe llwid at y rhest. Ma Morgan yn i leico rw'n hirion dros i belinie. Ma i e'n cal i flino gimint da'r hen riwmitis."'
"Cinta i'r felin bia'r mâl," ebe Nani gyda gwên foddhaus. "Ma par i ddod o'r Pantbach yr wthnes hin rwbrid fid, ond chi ddoith ginta ochodin."
"Ie, gweiwch nw cinted a galloch chi wirione. Beth iw'r hosan na si da chi? Mai at seis hosan Morgan. Leices. i ariod mo'r dafe coch a di na, mai e'n grandach, siwr, ond mai e'n dangos y baw gimint, a diw e'm yn golchi nagos cistled a'r dafe llwid."
"Dafi Alun bia rhein. Mi dibenna i nw fori. Mi ddachreia'ch rhai chi wedin ninion."
"Dafi Alun! Diw mo'r rhoces Gwen na yn galler gwei digon i thadci a hithe? Beth ma'r losgr'on yn neid a'i hamser?" ebe Anna Ifans, gydag yni newydd yn ei llais lleddf.
"Chidig o glem gwei weles i ar Gwen ariôd," ebe Sali.