o ddegwm o Maesyryn. Wa'th i beth? Dos neb o co'n tywilli drws yr eglws o ddachre'r flwiddin hid i diwedd i. I ni'n tali am yn crefidd, pwi reswm bo ni'n gorffod tali dros rai erill lŵeth, rhai alle dali'n dda i hinen. A rhiw ddwrned o bobol si'n mind i'r hen eglws fach na.
Pimp a'r ffeirad we na Di Sil dwetha, mynte Martha ginne,—Gwraig y ffeirad a'r cotshman, Shams y Gors, a Martha a'i gŵr," ebe Sali.
"Ma Shams y Gors yn para i dali'r rhent i flân i drwin," ebe Nani.
"Wel, sharadwch am y diafol, ac fe ddaw heibo, medde'r hen wheddel, a dico'r ffeirad yn dod ar y gaer," ebe Mrs. Ifans, gan edrych allan drwy'r ffenestr fach. "I le gall e fod yn mind, te?"
Cododd' Sali ac aeth yn dawel at y drws.
"Sdim angla na dim heddi, wês e?" ebe Nani. "Din digon diddrwg iw Mistir Piw. Do's da neb aer yn i erbin e, mai e'n ddigon parod a'i garedigrwydd."
"Weda i chi ble gall e fod yn mind. Fe brinodd geffil Di Gwener da John y Wern. Mind i dali am dano mai e, gewch weld," ebe Mrs. Ifans.
"We Gwen yn gweid wrthw i fod e'n taro miwn co weithe i gal sgwrs da 'r hen ŵr. Mai e'n ishel iawn at bawb," ebe Nani.
"Ma digon o amser da'r ddoi ochodin, a ma rhaid iddin nw hala'i diwarnod riwffordd," ebe Anna Ifans.
"Tra bu Nani a hithau'n penderfynu neges y ffeirad," safai Sali ar garreg y drws yn aros ei ddyfodiad. Wedi dywedyd Prynhawn da i chi, Syr," gan ymgrymu'n foesgar, a chlywed "A sut ma chi heddyw?" gan Mr. Puw, daeth i fewn yn ei hol a gwên foddhaus ar ei hwyneb.
Wedi ychydig ymddiddan pellach, cododd Mrs. Ifans. "Rhaid i finne find chi," ebe hi. "Dewch a'ch stên gal diferin o lath enwin. Menin ich'i Nani am yn dâl am wei'r sane? Dewch heibo Di Gwener pan bo Morgan yn y dre. Sdim ise iddin nhw gal gwbod popeth, welwch chi."