IV.
Nid oes heddyw ond yr atgof
Am y pethau hynny gynt.
HIRAETHOG.
ANAML, yn yr amser gynt, y digwyddai dim cyffrous iawn yn ardal Cwmgwynli. Yr oedd y bryniau a'r moelydd a'r dyffrynoedd yn aros yn yr unfan er erioed, a phan ddeuai'r tymhorau i newid eu gwisgoedd, gwnaent hynny mor araf a diswn nes cael o bawb ddigon o amser i dderbyn y cyfnewidiad heb gyffroi. Yr oedd pob dydd, yn ei waith a'i ddigwyddiadau, yn hynod debig i bob dydd arall; pryd hau a phryd medi yn dod bob blwyddyn yn ddiffael, haf a gaeaf, dydd a nos heb erioed anghofio eu hamser. Araf a phwyllog ac ansymudol fel Natur o'u cwmpas oedd preswylwyr y Cwm hefyd. Anaml y brysiai neb wrth fyw ei fywyd. Ni ddaethai trên na dim arall buan a rhwysgfawr a thrystiog erioed i beri rhuthr a chyffro iddynt. Ni cherddai'r llythyr- gludydd ond drwy ffordd fawr y plwyf. Cai'r byd mawr tuallan fynd ymlaen a'i ferw gwyllt. Hir y byddai gwan adsain o'i drwst cyn cyrraedd ardal lonydd Cwmgwynli.
Ym myd crefydd hefyd, araf a phwyllog ryfeddol oedd yr ardalwyr. Yr anhawster i'w symud a'u deffro flinai enaid y Parch. Owen Elis. Daethai ef i'w plith a'r weledigaeth nefol yn fyw o flaen ei lygaid, ei enaid wedi ei gyffroi i'w waelodion gan sylweddau byd arall, a phethau'r byd hwn yn mynd yn fwy anelwig a dibwys yn ei olwg bob dydd. Ei freuddwyd mawr oedd troi Cymru i'r unrhyw ffydd, gan ddechreu yng Nghwmgwynli. Tra'n ymdrechu pwysleisio ei neges o Sul i Sul ac o wythnos i wythnos, disgwyliai weld arwydd o lwyddiant, ond aethai bellach bron bedwar mis heibio, a neb o'i braidd wedi eu cynhyrfu'n ormodol. Cytunid yn gyffredin fod ganddo ddull tra newydd o bregethu; nid oeddid eto wedi penderfynu pa un a ddaliai dull felly yn ei flas ai peidio.
Ond yr oedd cynnwrf o natur arall gerllaw. Blynyddoedd caled i amaethwyr Cwmgwynli oedd y rhai hynny. Gweith-