Pan ddaeth yn bryd iddo fynd, yr hen ŵr aeth gam neu ddau i'w hebrwng, a safai Daniel ar y drws i'w wylio'n mynd. Yes, a confounded prig," ebe ef wrtho'i hun.
Cythryblus a thymhestlog ei feddwl oedd Owen Elis wrth ddisgyn drwy'r heol fach gul at yr afon. Safai merch ar y bompren gul. Pwysai ar yr hen ganllaw, a syllai i ddyfroedd yr afon. Adwaenodd hi fel un o ferched ei gynulleidfa, ond ni wyddai pwy oedd.
Nid cyn iddo ddyfod hyd at y bompren y cododd Gwen Alun ei phen. Trodd ei llygaid mawrion i'w gyfeiriad, ac edrychodd y ddau ar ei gilydd am funud heb ddywedyd gair, yna symudodd Gwen i wneud lle i'r gweinidog fynd heibio.
"Prynhawn da! Ydi Isaber—tŷ Dafydd Alun—yn agos.
"Odi," ebe Gwen. "Dyna lle'r w i'n biw. Ma Daci gatre.
"Rown i'n mynd i edrych am dano wrth fynd heibio,' ebe'r gweinidog, gan edrych ar Gwen o hyd, a'i het yn ei law.
"Ddo i nol gidach chi," ebe Gwen. "Dim ond hyd fan na own i'n mind,—i gal tipin o gwmni'r hen afon."
Siaradai Gwen â phawb yn syml a rhydd, fel y gwnai a'i thadcu.
"A beth mae'r hen afon yn ddweyd wrthych chi?" gofynnai'r gweinidog gan wenu.
"O. pŵer o bethe." atebai Gwen. Mai'n y nifrio i amell waith a nghisiro i brid arall. Dich chi ddim yn teimlo fel na weithe, Mr. Elis? Ma'r in peth yn digwidd amell waith ar nos Silie, pan fidd Daci a finne'n cimrid wâc ddistaw drw Barc y Berth. Din ni'm yn sharad llawer, ond ma popeth yn sharad wrthon ni. Duw yn rhoi ei falm, medde Daci."
Edrychodd y gweinidog yn syn ar Gwen. Ni chlywsai ferch yn siarad felly erioed. Yr oedd Gwen yn bert iawn.
"Dych chi'm yn dod i'r cwrdd ar nos Suliau?" gofynnai.
"Anamal iawn ma Daci'n mind i'r cwrdd," ebe Gwen, "a rw inne'n hoff iawn o Daci."
Daethant at Isaber. Gwahoddodd Gwen y gweinidog i mewn, a rhoddodd gadair iddo. "Mi alwai ar Daci nawr, "ebe hi, "mi gweles e yn yr ardd."