anecdotes, and plenty of hwyl, and there you are! By Jove, nhad, pam na godech chi fi'n brigethwr?"
Hanner gwenu wnaeth ei dad, a dywedodd ei fam tra'n torri'n ddeheuig y frechdan hir:—
"Wi'n meddwl bod bid go lew arnat ti nawr," ac edrychodd gydag edmygedd ar ei mab, o'i glywed yn siarad Saesneg mor feistrolgar, ac yn trin y gweinidog fel cydradd. "It must be trying though," ebe Daniel drachefn, hammer on at the old subjects Sunday after Sunday, and to pretend to be serious when you really are not. I suppose you are very keen on Cyfiawnhad drwy ffydd and ail enedigaeth and all that. Mam, odich chi'n meddwl bod fi wedi'n ail—eni? Prid ma'r cyfiawnhai'n dod miwn wedin, Mr. Elis?" a chwarddodd y dyn ieuanc yn iachus. Er mai'r peth anhawddaf iddo i'w ddioddef oedd gwawd, mynnodd Owen Elis fod yn ddigon gwrol i ddywedyd yr hyn oedd ar ei feddwl.
"Mr. Morgan," ebe ef, "perigl mwyaf Crefydd Cymru heddyw yw pobl fel chi sydd wedi cael ychydig addysg ac wedi cael eich dwyn i fyny ynghanol breintiau'r efengyl. Rych chi wedi dod mor gyfarwydd a geiriau'r efengyl, a geiriau gwag yn unig y'n nw i chi. Rych chi'n gallu cellwair ag ymadroddion oedd yn llawn o ystyr i'r hen bobl, ac sydd eto'n llawn o ystyr i'r rhai sy'n deall pethau. Draw the line at religion, Mr. Morgan. I can't see that it is manly to scoff at things which are sacred to others, and which—pardon me for saying it bluntly to your face—you evidently do not in the least understand. Mae son yn yr Hen Destament am rywrai wedi cyfarwyddo cymaint ar Arch Duw, nes mynd yn rhy hŷf yn ei phresenoldeb, a'i chyffwrdd yn ddiystyr a'u dwylaw halog, a chael eu taro'n farw am hynny. Fe wneir digon o'r un peth yng Nghymru heddyw. Chwi a'ch tebig sy'n euog o hono. Yr un yw Duw o hyd, ac y mae E'n sylwi. Gwyliwch y gosb! Falle taw nid yr un fydd honno a chynt, ond fe fydd yn effeithiol, coeliwch fi, ac yn ffitio'r ces a'r camwedd!"
Synnodd Daniel gymaint nes methu cael gair mewn atebiad, ond chwarddodd eto er mwyn cuddio teimlad dyfnach. Wedi bwrlymu felly, trodd y gweinidog at John a Neli, gan geisio siarad am bethau mwy cyffredin, a gadawodd Daniel mor ddisylw a phe na bai yno.