ie'n fân, fân. Cofied e gingor yr hen Shaci. Na drieni nawr, ath Bet i'r shop ginne, a mai heb ddod nol, ne fe geise'r ddised dê ffena gas e ariôd. Ma Bet yn gneid dised o dê i rifeddi, odi, tawn i marw. Ond galwed yn y Glaslwyn, Ma mab y Glasiwyn gatre o bant, a'i sgidie fe mor dene a'i rai e. Titsher iw e, bant sha'r gweithe na rwle. Sisnes o wraig si deg e, medde nhw. achan.
Wedi tipyn rhagor o ymgom unochrog, medrodd y gweinidog ddadfachu ei hun oddiwrth Shaci. Aeth, yn ol cyngor yr hen ŵr, i'r Glaslwyn. Yr oedd y tad a'r fam a'r mab y soniasai Shaci am dano, yn mynd i gael eu té pan alwodd y gweinidog. Gwahoddwyd ef i eistedd gyda hwynt wrth y bwrdd.
Tawedog iawn oedd John a Neli Morgan. Gan fod Daniel eu mab gartref, ystyrient mai efe oedd yr addasaf i siarad â'r gweinidog. Yr oedd Daniel yn hyn o'r un farn a'i dad a'i fam, a theimlai ac ymdrechai ddangos ei fod yn gwybod mwy na'r gweinidog gwledig am bob pwnc dan haul. Pan siaradai am grefydd, gwnai hynny mewn dull ysgafn cellweirus, fel pe yn cymeryd yn ganiataol nad allai neb fod o ddifrif yn eu proffes o bethe mor hen ffasiwn, ac y gallai'r rhai oedd yn y gyfrinach gyffesu hynny'n wyneb-agored wrth ei gilydd.
Cymerwch, bwytewch, Mr. Elis, ebe ef, gan gynnig y bara menyn, mae e wedi i fendithio'n barod.
Disgwyliai o leiaf wên oddiwrth y gweinidog fel gwerthfawrogiad o'i ffraethireb, a phan nas cafodd, ac y gwelodd fod y pregethwr yn siarad a'i dad a'i fam gan ei adael ef yn ddisylw, symudodd ei lygaid yn chwareus, a ffurfiodd ei wefusau y gair "Prig"!
"My word," ebe ef drachefn cyn hir, "ma soft job da chi'r pregethwir ma. Ma'r wthnos ond Di Sil practically 'n rhidd da chi."
"Ydych chi meddwl hynny?" gofynnai Owen Elis.
"Well, very little preparation will do, you know, here among the simple country people. If you are smart, as I am sure you are, you can give an impromptu discourse, and have it considered a great sermon. Take care not to say anything very new, throw in a good supply of sentimental