alle fe sharad a chi, falle. Ma dag e amser i feddwl am bethe fel na, staf fi ddim. Wi'n credi bidd y Bod Mowr ar y diwedd yn cimrid hinni i ystirieth. Mai E'n gwibod fel mai arna i. 'Drian a ti,' wêd E, 'paid di mindio. Chest ti'm amser ariôd i fod yn ddiwiol.' Ie wirione. Ewch chi ddim, Syr, cin cal dised o dê? Ma'r tegil yn berw:."
Boddlonwyd calon garedig Mari, pan ddywedodd Mr. Elis yr hoffai wydraid o'r llaeth enwyn ffres. Ac wrth ei yfed, ac yn hir wedi i'w flas adael ei enau, rhedai diwinyddiaeth newy id Mari Pŵel drwy ei feddwl, Paid di mindio, wêd E. Drian a ti! Chest ti'm amser ariod' i fod yn ddiwiol." Ar ymyl y ffordd fach tuhwnt i Llainddu, eisteddai Shaci'r Nant ar ei stol yn diwyd dorri cerrig. Yr oedd yntau yn un o'r praid. Hen ŵr bychan bywiog nedd Shaci, a chanddo lawer i ddweyd wrth bawb a ai heibio. Cymerai ddiddordeb anghyffredin yn hanes pawb o'i gym- dogion, a defnyddiai'r trydydd person wrth siarad a phawb o bob gradd. Yr oedd hefyd yn drwm iawn ei glyw. An- aml yr ai neb heibio'i garn gerrig heb ymdroi ychydig i siarad â'r hen ŵr. Pan ddaeth Mr. Elis ymlaen, cododd Shaci ei law at ei dalcen o barch iddo fel gweinidog, a dechreuodd ymddiddan, a pharhaodd, heb ond prin roi lle i'r gweinidog syn daflu gair i mewn.
"Shwt mai e heddi, Syr? Wel, tawn i marw! mai e wedi dewis diwarnod neis i dod' ffor hin. Fio'r hen lên fach ma ariod yn lipach. Naddo seriws. Mi eith yn shwe shac yn y sgidie bach tene na. Gweded pam na wisgith e glocs? Ie, tawn i marw! Dos dim ond clocs yn cered y lôn ma o ddachre'r flwiddin hid i diwedd i. Ma'r ffeirad ar gefen i boni finicha, ne clocs fise dag inte. Gweded te, le ca i weid bod e'n mind ffor hin?"
Gwaeddodd y Bugail ei neges oreu medrai.
"O, ie, ond Dei cato ni! peided a ffwdani dwino'i sgide'n rhi amal ffor hin. I ni'n crefidda ma i gid, welith e, ac yn dod nawr ag wleth i'r capel co i mofin yn toc. Ond weda i hin wrtho, i ni'n i leico fe wedi i dorri'n fân. Wedd e'n nabod yr hen Forus we ma o'i flân e? We mi ginta. Dei, cwlffe bras iawn we ni'n gal dag e a wirione, we'r bwid ddim yn cal i droilo da'n hanner ni. Ise i dorri e'n fân si,