Ond yr oedd Nani wedi noswylio. Daeth ei llais at Gwen d'r diddosrwydd 'tu ol i lenni glân yr hen wely mawr,—
"Mind i'r gweli gida'r fiwch, a chodi gida'r hedidd."
Yr oedd Sali'n brysur yn golchi'r llestri ar ol y swper o gawl dwr, a themtiwyd Gwen i gymeryd gwib, fel y gwnai weithiau fin hwyr yn yr haf, wrthi ei hun i ben pellaf y lôn. Arhosodd yn ymyl hen lidiart lwyd cyn dod i'r ffordd fawr, gan bwyso'i phen arni a myfyrio. Fynychaf, tawel ei meddwl fyddai Gwen. Cai dyfroedd cyfoethog bywyd lifo'n llyfn dros ei henaid. Heno, yr oedd ei meddwl yn anniddig ac yn llawn cwestiynau heb ateb iddynt yn ei phrofiad hi. Edrychai ar y dyffryn o'i blaen, a sylweddolai fod cylch ei hadnabyddiaeth i gyd bron rhwng y capel bychan ar yr aswy a bwthyn ei thadcu ar y dde. Brinned oedd ei chyfle am gymdeithas! Ei thadcu, Nani a Sali, merched Maesyryn, ac vchydig ereill na wyddai fwy am fywyd na hithau oedd uni rai cyfarwydd ei byd. Deuai Mr. Puw, y rheithor, weithiau i gael ymgom a'i thadcu, ond yng nghwmni hwnnw. teimlai'n reddfol mai distaw y disgwylid hi fod. Aethai tair wythnos heibio oddiar ymweliad Owen Elis. Wedi dod mor agos atynt y tro hwnnw; wedi arllwys ei brofiadau fel y gwnaethai, disgwyliasai Gwen ei weld yn dod drachefn; ond yr unig olwg a gawsai arno wedi hynny oedd o'i sedd yn y capel.
Gwelsai ef y Sul yn ysgwyd llaw a'i thadcu, a phan ddaethai hi i'w gyfer wrth fynd allan, ni wnaethi Mr. Elis ond edrych arni'n syn, a rhoi rhyw hanner—gwên freuddwydiol iddi. Teimlai Gwen yn sicr na chofiai pwy oedd hi. Yr oedd y wên honno o flaen ei llygaid o hyd, ac ymgymysgai fel yn awr, a blinderau bychain ereill ei bywyd. Darllenai i'w thadeu'n gyson y papur newydd a gaent bob dydd o dŷ'r ffeiriad,' ac nid oedd hynny heb ei effaith arni. Vr oedd cymaint o bethau diddorol yn y byd na wyddai hi ddim. am danynt,—cymaint o broblemau ag arni eisieu eu d'adrys. Edrvchai ar y mynyddau obry fel rhyw gewri yn gwylio drws y byl mawr tudraw ac yn ei gau yn ei herbyn, a rywfodd, ni ddug yr hwyrnos tawel hwnnw yr hedd arferol i'w bron.
Wedi troi drachefn tuag adref, gan gerdded yn fyfyrgar i lawr drwy'r lôn, brawychwyd calon Gwen pan welodd, ychydig latheni oddiwrthi, yn pori'r cloddiau'n hamddenol,