"Diolch. Rhaid i mi fynd nawr, a mi ges dê yn Y Glaslwyn. Roedd yn well gen i'r ymgom yna a chwi eich dau nag un pryd o fwyd."
Felly ffarweliwyd. Aeth y gweinidog, a meddyliau am Gwen yn torri ar draws ei feddyliau arferol am ei waith, a blinai Gwen drwy weddill y dydd am anghofio o honi estyn croesaw arferol y wlad i'r gweinidog newydd.
VII.
Nis gwyr dyn ei ddamwain.
—HEN DDIHAREB.
SAFAI Isaber ar lawr yn bur isel yn y cwm. Dim ond lled yr ardd ac un cae a'r ddol oedd rhyngddo a'r afon Gwynli. Arweiniai lôn gul heibio Penffynnon,—tŷ Nani a Sali, ac i fyny'n hir a serth am fwy na hanner milltir, nes dod allan i'r ffordd fawr sydd rhwng Abergwynli a Thre'r ynys. O'r fan hon ceid llawn olwg ar y dyffryn hardd islaw. Gwelid simneiau gwynion y ffermdai yn ymddangos. drwy'r coed talgryf a'u cysgodai, ac ar ymylon rhai o'r caeau gwyrddlas codai bythod' tô gwellt eu pennau'n siriol. Fan draw, gwelid y pentref bach, ac yn ei ganol y capel gwyngalchog a'r fynwent lonydd. O'r tu ol, ymgodai'r tir yn raddol nes cyrraedd y rhosydd eang a'u swyn dihysbydd. I'r cyfeiriad arall, ymledai'r dyffryn nes graddol ymgolli yn nyffryn brasach yr Afon Fawr. Ar y gorwel pell gwelid y mynyddau'n ymgodi'n fawreddog, ac weithiau, ar hwyrnos dawel a chlir, clywid ysgrech oer y tren, a gwelid ei fwg gwyn fel colofn o niwl ar eu godre.
Un noson hyfryd ym mis Mai, wedi godro a gorffen gwaith ei dydd, aeth Gwen at ei thadcu, yr hwn eisteddai, yn ol ei arfer, yn ysmocio ei bibellaid ar foncyff pren yn yr ardd, a dywedodd,—Daci, wi'n mind a'r diferin llâth ma i Penffynnon. Fidda i nol 'ninion."