"Mae pawb yn gneud hynny ffor hyn. Ma digon o eisie esiamplau i fyw'n onest, yn eirwir, yn ddi—genfigen. Kw i'n treio gneud hynny."
"Rhwbeth fel na ma Esaiah 'n weid yn y bennod ddarllenson ni bore heddi," ebe Gwen, a difynnodd yr adnodau o'i chof: "Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? Ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachlian a lludw arno? Ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd? Onid dyma yr ympryd a ddewisais? Datod' rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri o honoch bob iau? Onid torri dy fara i'r newynog, a dwyn o honot y crwydriaid i dŷ? A phan welych y noeth ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddiwrth dy gnawd dy hun?"
Trodd y gweinidog ei lygaid o syllu ar Gwen, a dywedodd," Rhaid i mi ddweyd hyn: 'Rwyf erbyn hyn yn gyfarwydd a'r rhan fwyaf o aelodau'r eglwys yn Y Bryn, ond chefais i neb eto mor ysbrydol eu meddwl a chwi eich dau. Rw i am i chi ddod i'r cwrdd nawr am reswm arall hollol,—pan alloch chi, Dafydd Alun,—i fod yn galondid i mi, i mi gael teimlo fod rhywun yn y gynulleidfa yn fy neall."
"Mi na i—mi wnaf fi i Daci ddod mwy, amell waith," ebe Gwen.
"A pheth arall," ebe'r gweinidog, a'i lygaid yn disgleirio, mae mwy mewn crefydd na bod yn orest, a geirwir, a digenfigen, mwy hyd yn oed na datod rhwymau anwiredd a thorri bara i'r newynog, ac yn y blaen fel mae Esaiah 'n dweyd. A ddarllensoch chi ar ddiwedd y bennod am yr ymhyfrydu' yna? Y gorfoledd hwnnw na wyr y byd ddim am dano, y gorfoledd hwnnw sy'n codi dyn ymhell uwchlaw'r ddaear, nes gwneud holl gysylltiadau daear yn ddibwys, ie, sy'n gweddnewid y byd i gyd! Ma hynna mewn crefydd, a rw i'n credu taw yn y cysegr mae teimlo hwnna ar ei fan gore."
Pan gododd y gweinidog i fynd, cofiodd Gwen yn sydyn nad oedd wedi cynnig bwyd iddo, fel y gwnai pob teulu yn y wlad i ymwelwyr.
"O, Mr. Elis, arhoswch, fe ddaw tê'n barod' 'mhen cwpwl o finide," ebe hi.