ie—hm— eithr mewn ysbryd a gwirionedd.' Mi fues i'n. dipyn o gwrddwr unwaith, ond fues i ariôd yn nodedig o flaenllaw gyda gwaith capel. Does gen i fawr o feddwl o lawer sy felly. Ofynnir dim i mi ar y diwedd, welwch chi, Sawl gwaith buest ti'n y capel?' ond Shwt buest ti byw?"
Ond, yn sicr," ebe'r gweinidog, "hyd nes daw pobl yn berffeithiach, mae gweinidogaeth capel ac eglwys yn angenrheidiol. All dynion cyffredin mewn gwlad na thre ddim addoli mewn ysbryd ac mewn gwirionedd heb help y pethau allanol yma. Dyna foddion gras onte?
"Rych chi'n iawn, rych chi'n iawn. Ond ma perigl o'r ochor arall i bobol bwyso gormod arnyn nw. gynhyrchu iechyd yw e, ac nid yr iechyd i hunan. falle nad yw'r un moddion ddim yn cytuno â phawb."
Daeth gwên siomedig i wyneb y pregethwr.
"Dyna berigl Cymru a'i channoedd capeli ac eglwysi," ychwanegai Dafydd Alun,—" meddwl mai bod yn aelod eglwysig yw crefydd. Wirionedd i, na proffeswyr crefydd yng Nghymru yn debig iawn ag oedden nw yng ngwlad Canaan yn amser Crist, yn meddwl taw nhwy'n unig sy'n diall y ffordd i'r bywyd. Ma'r capeli a'r eglwysi wedi gneud twysged o les i Gymru, ond cyn bo hir,—fe fyddwch chi byw i weld hynny,—fe fydd raid cal rhyw foddion gras o natur wahanol, hyd yn oed yn e'n gwlad ni. Ma pobol yn colli golwg ar yr ysbrydol. Ma gofid ne drallod mowr yn amal yn dwyn dyn i'w le. Fe ddaw rhyw gynnwrf tebig ryw ddiwrnod i ysgwyd y genedl yn gyfan yn ol at y pethe mowr.
"Ond, ond," ebe'r gweinidog yn hanner ofnus, "yn lle cadw o'r capeli am fod y crefyddwyr mor amherffaith, ai nid ein dyledswydd ni yw gwneud ein gore i ddod a phethau yn fwy perffaith?"
"Ma hynna shwr o fod yn wir, Daci," ebe Gwen.
Gyda chi'r ieuanc ma'r cyfle te," ebe Dafydd Alun. "Ma'n amser i ar ben. Wnawn i ddim rhyw bŵer o les mwy tawn i'n mynd i'r cwrdd yn gyson.
"Fe fuse esiampl dyn fel chi'n gwneud llawer," ebe'r gweinidog.
"Does dim eisie esiampl i fyn'd i'r cwrdd," ebe'r hen ŵr.